Mae Prifysgol Bangor yn darparu amgylchedd lle mae syniadau ymchwil gwych yn cael eu creu ac yn cael cyfle i ffynnu. Mae mwy na 85% o'n hymchwil gyda’r gorau yn y byd neu o safon ragorol yn rhyngwladol (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021).
Mae ein harbenigedd yn helpu i ddatrys heriau cymdeithasol, heriau iechyd, heriau economaidd a heriau amgylcheddol mwyaf y byd. A chyda dull gweithredu unigryw a chyfannol o ymdrin â chynaliadwyedd yn sail i’n holl waith ymchwil, mae ansawdd ein heffaith ar Ddatblygu Cynaliadwy yn 1af yng Nghymru, yn 11eg yn y Deyrnas Unedig ac yn y 53ain safle yn rhyngwladol allan o 1,500 o sefydliadau yng nghynghrair effaith prifysgolion 2022 Times Higher Education.
Trwy ein hymchwil, ein cydweithrediadau a'n partneriaethau rydym ar flaen y gad o ran blaenoriaethau a heriau cymdeithasol newydd ac rydym yn cyfrannu at bolisïau’r Llywodraeth o ran sut i fynd i’r afael â’r pethau hyn.
Ymhlith ein mentrau blaenllaw, bydd y cynlluniau a gefnogir gan Lywodraeth Cymru i sefydlu Ysgol Feddygol Gogledd Cymru ym Mhrifysgol Bangor o 2024 yn darparu Ysgol ryngbroffesiynol arloesol sy’n adeiladu ar ein cryfderau ymchwil yn y Gwyddorau Dynol ac yn helpu i ddatblygu iechyd a gofal cymdeithasol cynaliadwy at y dyfodol a fydd yn gynaliadwy, yn seiliedig ar le ac yn cefnogi twf y sector gwyddorau bywyd yn rhanbarthol.
O ddod o hyd i atebion ynni'r dyfodol i fynd i'r afael ag elfennau o'r pandemig COVID-19 mae ein hymchwilwyr, ein canolfannau academaidd, a’r partneriaethau yr ydym yn rhan ohonynt yn ein helpu i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ledled y byd.
Mae gan Brifysgol Bangor un o'r grwpiau mwyaf o wyddonwyr amgylcheddol yn y Deyrnas Unedig. Mae ein gwaith ym maes Gwyddorau’r Eigion a’r Gwyddorau Naturiol, y mae iddo enw da yn rhyngwladol, yn amrywio o newid amgylcheddol byd-eang i gynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy.
Mae ymchwil Prifysgol Bangor yn defnyddio dull 'systemau' cyfannol, gyda ffocws arbennig ar ystod o weithgareddau ynni carbon isel gan gynnwys systemau ynni niwclear a morol a thechnolegau synwyryddion. Mae ein gwaith yn canolbwyntio'n helaeth ar wella parodrwydd technolegau newydd, wedi'u cryfhau trwy bartneriaethau diwydiannol arwyddocaol.
Mae Sefydliad Dyfodol Niwclear Bangor, sy’n fawr ei fri, yn cynnwys cyfleusterau eithriadol sy’n cael eu defnyddio gan ymchwilwyr a rhanddeiliaid y diwydiant i gynorthwyo’r gwaith o ddatblygu technoleg niwclear, tra bod ein Canolfan Ynni Effeithlon Craff yn datblygu peirianneg, cyfrifiadureg a modelu i gynyddu cynaliadwyedd cyflenwad a defnydd ynni tra’n lleihau effeithiau amgylcheddol negyddol.
Ym maes busnes a chyllid, mae Ysgol Busnes Bangor ar flaen y gad o ran ymchwil a hyfforddiant ym meysydd cyfrifeg, bancio a chyllid yn y Deyrnas Unedig ac mae wedi ei rhestru ymhlith y 50 sefydliad gorau yn y byd am ymchwil Bancio.
Mae gwyddonwyr chwaraeon yn gwneud ymchwil i wytnwch meddwl, perfformiad elît, perfformiad dynol ac iechyd mewn amgylcheddau eithafol, ymddygiad deietegol a metabolaeth, ac ymarfer corff ac iechyd fasgwlar.
A gyda ffocws ymchwil ar y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Ysgrifennu Creadigol a Pherfformio, ac Ieithyddiaeth rydym yn manteisio ar ddiwylliant Cymreig yr ardal y mae Prifysgol Bangor wedi ei lleoli ynddi ac yn gosod hynny mewn cyd-destun rhyngwladol.
Lle gwelir arbenigedd ymchwil y brifysgol yn cydblethu ag arbenigeddau sectorau diwydiant lleol, mae hyn yn creu 'canolbwynt' pwerus ar gyfer gweithgarwch arloesi. Yn bwysig ddigon, rhan o ethos Prifysgol Bangor yw cysylltu ein hymchwil ag amgylchedd rhanbarthol Gogledd Cymru fel y gall effaith yr ymchwil hwnnw helpu i sbarduno adfywiad economaidd a chymdeithasol.
Yn ogystal â bod â’r gyfran uchaf o staff dwyieithog Cymraeg/Saesneg yng Nghymru, ac arbenigedd nodedig yn hanes a diwylliant Cymru a’r Gymraeg, mae ein hymchwilwyr yn dod o 30 o wledydd ledled y byd ac yn cydweithio â chydweithwyr mewn dros 120 o wledydd.
Mae ymwneud â'n cymunedau a dangos gwerth ein hymchwil i gymdeithas yn rhan greiddiol o'r hyn ydym. Rydym wedi ymrwymo i gynnal perthynas gadarnhaol a llwyddiannus â rhanddeiliaid a hynny drwy drefn bedwarplyg sef ymchwil prifysgol, arbenigedd diwydiant, llywodraeth a chymdeithas ddinesig.
Mae'r brifysgol yn gwerthfawrogi ac yn buddsoddi yn natblygiad ymchwilwyr y dyfodol. Rydym yn integreiddio darpariaeth myfyrwyr ymchwil ôl-radd yn rhan o’n meysydd rhagoriaeth ymchwil unigryw ac ar yr un pryd yn darparu profiad o ansawdd uchel wedi ei hwyluso gan Ysgol Ddoethurol y brifysgol.
Mae Prifysgol Bangor yn cymryd rhan mewn nifer o Ganolfannau a Rhaglenni Hyfforddiant Doethurol cenedlaethol, a ni sy’n rheoli rhaglen PhD/MRes KESS II sy'n canolbwyntio ar fusnes ledled Cymru ar ran holl brifysgolion Cymru.
Tair thema ymchwil allweddol
Ynni a'r Amgylchedd
Caiff gwaith Prifysgol Bangor yn y maes hwn ei ategu gan ymchwil sylfaenol i wyddorau biolegol, cemegol a ffisegol systemau naturiol, ac mae wedi'i gysylltu'n strategol â pheirianneg systemau,