全民彩票

Fy ngwlad:
Skyscrapers modern looking buildings

Ysgol Busnes Bangor - Addysg Weithredol

Darparu dysgu blaengar ac arloesol i鈥檙 sector gwasanaethau ariannol byd-eang

Rhaglenni Addysg Weithredol

MBA Bancwr Siartredig
(CBMBA)

Cymhwyster deuol, sy鈥檔 cyfuno MBA a statws banciwr siartredig - y dyfarniad proffesiynol uchaf sydd ar gael i fancwyr ledled y byd.

Dyfernir statws 'Banciwr Siartredig' gan Sefydliad y Bancwyr Siartredig, corff addysg proffesiynol byd-eang i fancwyr a'r unig sefydliad bancio yn y byd a all ddyfarnu鈥檙 statws hwn.

Dysgu mwy am CBMBA

MBA Cyllid Anghyfreithlon 
(IFMBA)

Cymhwyster newydd ar gyfer arbenigwyr mewn diogelwch ac amddiffyn cenedlaethol sy鈥檔 eich galluogi i ennill MBA ynghyd 芒 statws proffesiynol Arbenigwr Gwybodaeth Ariannol (FIS).

Dyfernir dynodiad Arbenigwr Gwybodaeth Ariannol (FIS) gan ManchesterCF, darparwyr hyfforddiant gwybodaeth ariannol fyd-eang.

Dysgu mwy am IFMBA

MBA Troseddau a Chydymffurfiaeth Ariannol
(FCCMBA)

Cymhwyster arloesol sy鈥檔 eich galluogi i ennill MBA ynghyd 芒 statws proffesiynol Arbenigwr Gwybodaeth Ariannol (FIS).

Dyfernir dynodiad Arbenigwr Gwybodaeth Ariannol (FIS) gan ManchesterCF, darparwyr hyfforddiant gwybodaeth ariannol fyd-eang.

Dysgu mwy am FCCMBA

Tystysgrif 脭l-radd mewn Rheoli Bancio a Thechnoleg (CertBMT)

Cymhwyster proffesiynol ac academaidd annibynnol ar gyfer bancwyr a gweithwyr proffesiynol gwasanaethau ariannol sy'n dymuno gwella eu dealltwriaeth ymarferol o reoli bancio a thechnoleg.

Mae'r rhaglen hon yn darparu llwybr dysgu cyflym i gymhwyster Bancwr Siartredig.

Dysgu mwy am certbmt

 

Llyfrynnau Rhaglenni

MBA Bancwr Siartredig (CBMBA)

Cliciwch ar y cyswllt isod i lawrlwytho fersiwn PDF o lyfryn y cwrs MBA Bancwr Siartredig (CBMBA):

MBA Cyllid Anghyfreithlon

Cliciwch ar y cyswllt isod i lawrlwytho fersiwn PDF o lyfryn y cwrs MBA Cyllid Anghyfreithlon (IFMBA):

MBA Troseddau a Chydymffurfiaeth Ariannol

Cliciwch ar y cyswllt isod i lawrlwytho fersiwn PDF o lyfryn y cwrs MBA Troseddau a Chydymffurfiaeth Ariannol (FCCMBA):

Ymwadiad Llyfrynnau

Mae'r wybodaeth yn y llyfrynnau rhaglen yn gywir adeg eu cyhoeddi a gellir eu defnyddio fel arweiniad yn unig. Gall gwybodaeth am fodiwlau, strwythur cyrsiau a ffioedd newid fesul blwyddyn academaidd. Gweler cynnwys a chost y cwrs ar dudalen we'r rhaglen am y wybodaeth ddiweddaraf ar gyfer y flwyddyn academaidd hon.

Mae'r llyfrynnau yn iaith Saesneg yn unig. 

Astudio Modiwl Sengl

Gellir cymryd modiwlau sengl yn anffurfiol ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus neu gyda'r opsiwn i gwblhau'r asesiad ffurfiol ac ennill credydau 么l-raddedig a gydnabyddir yn rhyngwladol. Gellir symud y credydau yn ddiweddarach i ddyfarniad 么l-raddedig Addysg Weithredol, a chael MBA pan fydd 180 o gredydau wedi'u cwblhau.

Wedi'i anelu at weithwyr proffesiynol canol gyrfa sy'n gweithio yn y diwydiant ariannol neu reoleiddio. Rhoddir ystyriaeth i fynediad i unigolion sydd ag ychydig iawn o brofiad.

Rhagor o wybodaeth yma

Tystiolaeth Myfyrwyr