Mae'r lleoliad, y golygfeydd a'r ardal gyfagos ymhlith y rhesymau pam mae llawer o'n myfyrwyr yn dewis dod i Fangor. Un peth yn sicr, mae cael hyn ar eich carreg drws yn bendant yn ychwanegu dimensiwn gwahanol i fywyd myfyriwr.
Cysylltiadau da
Er ei bod yng nghanol tirwedd naturiol godidog Gogledd Cymru, mae cysylltiadau da â Bangor ar y ffyrdd a'r rheilffyrdd.
Gallwch deithio i'r dinasoedd yma o fewn ychydig oriau:
- Lerpwl - 1.5 awr
- Manceinion - 2 awr
- Birmingham - 3 awr
- Llundain - 3 awr
- Caerdydd - 4 awr
Campws Wrecsam
Bydd ein myfyrwyr Radiograffeg wedi eu lleoli yn ein campws yn Wrecsam.