Mae ymchwilwyr Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithas yn gwneud ymchwil sy'n ennill gwobrau, yn rhagorol yn rhyngwladol ac sy'n cael effaith. Mae ein hymchwil yn cynnwys iaith a llenyddiaeth, cerddoriaeth a'r cyfryngau, astudiaethau ariannol, cyfathrebu, astudiaethau technoleg, rheoleiddio, cyfiawnder, hunaniaethau ac astudiaethau cymunedol. Mewn amrywiol ddisgyblaethau, rydym yn cyfuno rhagoriaeth academaidd gydag ymgysylltiad â'r gymuned, effaith ar bolisi, a chyfraniadau creadigol a diwylliannol. Mae ymchwil y Coleg wedi'i threfnu o amgylch tair ysgol:
- Ysgol Addysg
- Ysgol Busnes Bangor
- Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas
- Ysgol Iaith, Diwylliant a'r Celfyddydau
Mae sail gadarn i'n hymchwil ar ymdeimlad o le trwy ddiwylliant, perthnasedd cymharol, moddolrwydd, llenyddiaeth, iaith, cerddoriaeth, hanes, technoleg a sefydliadau, ynghyd â diddordeb yn natur newidiol cymunedau, cenhedloedd, strwythurau llywodraethu a chyfiawnder. Adlewyrchir hyn yn ein themâu ymchwil a nodir isod, sy'n caniatáu i ymchwilwyr o bob rhan o'r Coleg a'r Brifysgol ehangach gydweithredu a chynhyrchu ymchwil arloesol, rhyngddisgyblaethol sydd gyda'r orau yn y byd. Nid oes bwriad yn y dull hwnnw i hepgor nac anwybyddu meysydd rhagoriaeth ymchwil penodol y tu hwnt i'r themâu hynny, ond mae'n cynnig set eang o faterion thematig y gall llawer o'n hymchwil ymffurfio o'u cwmpas.
Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021
O fewn thema y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithas rydym yn cyflwyno i'r Unedau Asesu canlynol:
- UoA 17 - Business and Management Studies (gan gynnwys cyfraniadau perthnasol gan Astudiaethau Busnes a Rheolaeth)
- UoA 21 - Sociology (gan gynnwys cyfraniadau perthnasol gan Gymdeithaseg, Gwyddorau Cymdeithas, y Cyfryngau, y Gyfraith, Hanes a Gwyddorau Naturiol)
- UoA 26 - Modern Languages and Linguistics (gan gynnwys cyfraniadau perthnasol gan Ieithoedd Modern, Ieithyddiaeth, Celfyddydau Creadigol, Astudiaethau Celtaidd, Cerddoriaeth a’r Gyfraith)
- UoA 27 - English Language and Literature (gan gynnwys cyfraniadau perthnasol gan Iaith Saesneg, Llenyddiaeth, Hanes, Cerddoriaeth ac Ysgrifennu Creadigol)
Gellir gweld Astudiaethau Achos ar effaith ein hymchwil isod.
Astudiaethau Achos
Yn arddangos yr ystod o astudiaethau achos effaith a gyflwynwyd gan Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithas ym Mhrifysgol Bangor.

ASTUDIAETH ACHOS REF 2021 Teithwyr Ewropeaidd i Gymru 1750 - 2010
Mae ymchwil a wnaed mewn dau broject a ariannwyd gan yr AHRC ar 'Deithwyr Ewropeaidd i Gymru: 1750-2010' yn cynnwys darganfod, astudio a dehongli bron i 500 o hanesion gan deithwyr o bob rhan o Ewrop.

ASTUDIAETH ACHOS REF 2021 Cyfyngu ar y gosb am deyrngarwch a chostau cymhlethdod
Darparodd yr Athro Ashton yr asesiad cyntaf o'r gosb am deyrngarwch, sef sut mae cwsmeriaid ffyddlon yn talu mwy na chwsmeriaid newydd; a chostau cymhlethdod, sef sut mae darparwyr yn codi prisiau cynhyrchion cymhleth, ym marchnadoedd gwasanaethau ariannol manwerthu'r Deyrnas Unedig.

ASTUDIAETH ACHOS REF 2021 Iaith Byw: Meithrin Defnydd o’r Gymraeg mewn Bywyd pob Dydd
Mae ein hymchwil wedi datblygu ein dealltwriaeth o ddefnydd iaith a throsglwyddo iaith mewn perthynas â'r Gymraeg yn sylweddol, gan ddylanwadu ar bolisi ac ymarfer mewn amrywiaeth o sectorau gan gynnwys Llywodraeth Cymru, addysg, y trydydd sector, gofal iechyd a chymdeithas sifil.