È«Ãñ²ÊƱ

Fy ngwlad:
Students walking outside Main Arts

Wythnos Groeso - Myfyrwyr Ôl-radd

Bydd y wefan groeso hon yn eich helpu i ymgartrefu fel myfyriwr ôl-radd ym Mangor. Bydd yn eich cyfeirio at yr holl wybodaeth hanfodol y bydd ei hangen arnoch wrth i chi ymgartrefu yn eich bywyd fel myfyriwr ôl-radd.

Swyddogion Sabothol Undeb Bangor yn sefyll tu allan i Pontio gyda Phrif Adeilad y Celfyddydau yn y cefndir

Croeso gan Undeb Bangor

Undeb Bangor yw enw undeb y myfyrwyr - enw uniaith Gymraeg gan ein bod yn falch iawn o'n gwreiddiau Cymreig.

Y pwyslais ar gyfer yr Wythnos Groeso yw eich helpu i gael eich traed danoch: gan roi digon o gyfle i chi gwrdd â phobl a chymryd rhan gydag Undeb Bangor.

Myfyrwyr yn cymdeithasu tu allan i Pontio

Eich Amserlen ar gyfer yr Wythnos Groeso

Yma cewch wybodaeth am eich Ysgol Academaidd a'ch amserlen o ddigwyddiadau ar gyfer yr Wythnos Groeso.

Myfyriwr yn ysgrifennu mewn llyfryn efo ffôn symudol a gliniadur ar y ddesg

Cofrestru a Dewis eich Modiwlau

Rhaid i chi gofrestru gyda'r Brifysgol ar-lein cyn i chi gyrraedd, a chael eich manylion wedi eu gwirio pan fyddwch yn cyrraedd.

Yma fe welwch yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch am gofrestru a hefyd am ddewis eich modiwlau.

 Cyfrifydd yn gweithio ar rai taflenni cyllid

Ffioedd a Chyllid

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi gwneud yr holl drefniadau ariannol angenrheidiol ar gyfer ffioedd dysgu a’r holl gostau byw, gan gynnwys eich rhent.

Myfyrwyr yn cymdeithasu mewn ystafell neuadd preswyl

Neuaddau Preswyl

Aros yn Neuaddau'r Brifysgol? Mae'r dudalen hon yn ateb eich holl gwestiynau, gan gynnwys gwybodaeth am fywyd y campws a chael trwydded parcio i fyfyrwyr.

Sudents in quad

Llety Preifat a Byw yn Lleol

Yn byw mewn llety preifat neu'n byw'n lleol ac yn teithio i'r Brifysgol ar gyfer eich astudiaethau?

Ar y dudalen hon fe welwch wybodaeth am geisio a chael cymorth sy'n ymwneud â llety preifat a sut i gael trwydded parcio i fyfyrwyr.

Arweinwyr Cyfoed yn cerdded drwy bentref Ffriddoedd yn ystod Wythnos Groeso

Arweinwyr Cyfoed

Myfyrwyr sydd wedi gwirfoddoli ac sydd wedi cael eu hyfforddi i helpu myfyrwyr newydd i ymgynefino â bywyd prifysgol yw Arweinwyr Cyfoed. Byddant yn eich helpu i wneud ffrindiau drwy amrywiaeth o ddigwyddiadau cymdeithasol, dangos y dref a'r brifysgol i chi, a rhoi gwybodaeth a chyngor i chi am fywyd fel myfyriwr. 

Myfyriwr ar liniadur yn gwisgo clustffonau

Sut rydym yn Cyfathrebu â chi

Ym Mangor mae gennym wefan fewnrwyd, FyMangor, a hefyd cylchlythyr wythnosol, y Bwletin Myfyrwyr, a ddefnyddiwn i rannu gwybodaeth a chyfleoedd pwysig gyda chi.