Os ydych wedi bod yn chwilio am ffordd i dalu am astudiaethau 么l-raddedig - ysgoloriaethau a bwrsariaethau prifysgol, cyllid gan gynghorau ymchwil ac ati - ac wedi methu cael gafael ar gyllid, mae'n hawdd meddwl mai dyna ddiwedd y mater ac nad oes cyllid ar gael.
Ond nid yw hynny bob amser yn wir. Mae amryw o sefydliadau a allai eich helpu, hyd yn oed os nad yw'n amlwg yn y lle cyntaf eu bod yn cyllido astudiaethau. Gellir dosbarthu'r sefydliadau fel a ganlyn:
- Elusennau/sefydliadau elusennol
- Cwmn茂au mawr yn y sector preifat
- Busnesau bach a chanolig
- Eich cyflogwr chi
Yn aml iawn, nid yw'r sefydliadau hyn yn clustnodi cyllid i brojectau 么l-raddedig nac yn eu hysbysebu'n amlwg. Chi fel darpar fyfyriwr 么l-raddedig ddylai fynd at y sefydliadau h