Mae Prifysgol Bangor yn gartref i adnoddau a chyfleusterau o'r radd flaenaf ar gyfer addysg anatomeg ddynol. Mae ein harbenigwyr yn defnyddio archwiliadau anatomegol wrth addysgu myfyrwyr, yn ogystal 芒 gweithwyr proffesiynol meddygol a pherthynol i iechyd, am strwythur a swyddogaeth y corff dynol. Lleolir y ganolfan yn y Coleg Meddygaeth ac Iechyd ac mae鈥檔 cefnogi addysg anatomegol ar draws Ysgol Feddygol Gogledd Cymru a'r Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon. Yma hefyd mae cartref ysgol haf Visceral Mind sy鈥檔 adnabyddus ledled y byd am ddarparu cwrs preswyl wythnos o hyd mewn niwroanatomeg swyddogaethol.
Er bod llawer o sefydliadau eraill yn symud i ffwrdd o'r dull hwn, rydym ni yn cynnig dulliau dysgu traddodiadol yn defnyddio deunydd celaneddol, gan ein bod yn credu ei fod yn ddull hanfodol o ddarparu dealltwriaeth gynhwysfawr o anatomi topograffig, yn ogystal 芒 gwerthfawrogiad o amrywiadau anatomegol.
Yn ogystal, mae gennym lyfrgell helaeth o fodelau a phroraniadau corfforol 3D o ansawdd uchel ac rydym yn rhoi mynediad i'n myfyrwyr at adnodd dysgu anatomeg 3D blaengar y gellir ei ddefnyddio i rith-ddyrannu, yn ogystal ag amgylcheddau ac offer addysgu a dysgu rhithrealiti / realiti estynedig. Mae'r coleg hefyd yn gartref i uned delweddu cyseiniant magnetig 3T sy鈥檔 benodol ar gyfer addysgu ac ymchwil lle mae ymchwilwyr yn mapio anatomeg swyddogaethol in vivo.
Ym Mhrifysgol Bangor, mae myfyrwyr israddedig ac 么l-radd yn cychwyn ar daith gyffrous o ddarganfod, gan ddatgloi cymhlethdodau manwl anatomeg a'i dirgelion, gan gyfoethogi eu dealltwriaeth o'r hyn y mae'n ei olygu i fod yn ddynol. Rydym yn eich gwahodd i archwilio ein cyrsiau a鈥檔 hadnoddau, a chychwyn ar daith addysgol drawsnewidiol gyda Chanolfan Anatomeg Ddynol Gogledd Cymru.