Cefnogi a hyrwyddo rhagoriaeth yn y gwyddorau meddygol ac iechyd, ac mewn ymchwil, ysgolheictod, addysgu a dysgu. Arddel ansawdd a gwerthoedd rhagorol gyda phobl sy'n defnyddio gwasanaethau, ymarferwyr a rhanddeiliaid. Hyrwyddo cymhwysedd ieithyddol a diwylliannol sy’n berthnasol i bartneriaid lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, a darparu diwylliant ac amgylchedd cynhwysol i staff a myfyrwyr yr Ysgol.