5 Rheswm i Astudio Marchnata
Mae gan Ysgol Busnes Bangor berthynas glos â llawer o gyrff proffesiynol sy’n cydnabod ansawdd ein cyrsiau. Caiff y rhaglen Farchnata ei hachredu gan y Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM) sy’n dangos i ddarpar gyflogwyr bod gennych chi’r wybodaeth fasnachol berthnasol ddiweddaraf ac y gellir ei defnyddio’n hawdd yn y gweithle.
Bydd astudio un o’r rhaglenni gradd mewn Marchnata yn eich galluogi i ddatblygu i fod yn weithiwr marchnata proffesiynol rhagorol, sy’n meddu ar yr holl adnoddau i ddilyn gyrfa wych. Yn ogystal, trwy astudio un o’r rhaglenni Marchnata achrededig byddwch yn derbyn eithriadau awtomatig o nifer o gymwysterau proffesiynol a all wella dilyniant eich gyrfa. Bydd yr eithriadau hynny’n fodd i chi ennill cymwysterau proffesiynol y mae galw mawr amdanynt ymhlith cyflogwyr, a gwneud hynny’n gyflymach ac yn fwy fforddiadwy.
Yn ogystal â defnyddio gemau efelychu i ddod â heriau’n fyw, cewch lawer o brofiadau ymarferol. Byddwch yn dysgu mwy am ymddygiad defnyddwyr, sianeli cyfathrebu a sut y gall gwerthiannau a brandio effeithio ar gynhyrchion a gwasanaethau. Gallwch ddysgu sgiliau i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, gwefannau a dysgu am sianeli marchnata digidol eraill.
Ar y rhan fwyaf o gyrsiau, cewch ddewis ymgymryd â modiwl Lleoliadau Gwaith a gweithio mewn diwydiant, a defnyddio'r sgiliau a ddysgasoch yn yr ystafell ddosbarth. Mae’r rhan fwyaf o’r cyrsiau hefyd yn cynnig cyfle i wneud Blwyddyn ar Leoliad Gwaith, sy’n gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau gwerthfawr.
Yn yr Ysgol Fusnes mae gennym ddigonedd o gyfleoedd i chi hybu eich cyflogadwyedd. Mae rhaglen Enactus yn cefnogi myfyrwyr i gymryd rhan mewn gweithredu cymdeithasol a menter gymdeithasol, a rhoi'r cyfle i chi weithio ar syniadau sy’n gyfredol neu ddatblygu eich syniad eich hun gyda chymorth ein harbenigwyr cyflogadwyedd. Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd gwych i fyfyrwyr ennill profiad ymarferol o fusnes. Caiff y myfyrwyr gymryd rhan mewn cystadlaethau cenedlaethol megis 'The Pitch', her Cynlluniau Busnes a Marchnata i’r Deyrnas Unedig gyfan.
Mae gradd farchnata’n fodd o ddechrau gyrfa mewn amryw o feysydd creadigol a thechnegol. Gallech arbenigo, er enghraifft, mewn marchnata digwyddiadau, hysbysebu, brandio, cyfathrebu, cysylltiadau cyhoeddus, cynnwys a marchnata digidol. Fel arall, efallai eich bod yn closio at ymchwil y farchnad, dadansoddeg a mewnwelediad, ac optimeiddio peiriannau chwilio.
Bydd y sgiliau trosglwyddadwy y byddwch yn eu hennill yn agor drysau mewn nifer o sectorau. Bydd eich gallu i feddwl yn greadigol a chynllunio'n strategol yn werthfawr i lawer o gyflogwyr.
Mae astudio Marchnata ym Mhrifysgol Bangor yn golygu y byddwch yn ymuno â chymuned groesawgar a chefnogol. Cewch gyfle i ddod i adnabod eich darlithwyr yn dda. Mae gennym bolisi 'drws agored' a gall y myfyrwyr drefnu cyfarfod gyda’r staff academaidd lle bo angen, ac rydym yn cynnal sesiynau galw heibio rheolaidd i’r myfyrwyr ddod a gofyn cwestiynau.
Wrth astudio gyda ni byddwch yn derbyn cefnogaeth fugeiliol gan eich tiwtor personol pwrpasol yn rheolaidd. Gall eich tiwtor personol helpu gyda materion personol ac academaidd, megis creu cynllun astudio, gwneud ffrindiau, a'ch cyfeirio chi at amryw o wasanaethau cefnogaeth sydd ar gael gan y Brifysgol yn ehangach.
Darganfyddwch y cwrs Marchnata i chi

Rhodd o £10.5 miliwn i sefydlu ‘Ysgol Fusnes Albert Gubay’ ym Mhrifysgol Bangor
Mae’n bleser gennym gyhoeddi rhodd nodedig o £10.5 miliwn gan Sefydliad Elusennol Albert Gubay i sefydlu Ysgol Fusnes Albert Gubay ym Mhrifysgol Bangor. Bydd y rhodd hon yn golygu y gall Ysgol Busnes y Brifysgol symud i gyfleuster deinamig a modern.
Bydd Ysgol Fusnes newydd Albert Gubay yn meithrin rhaglenni arloesol a fydd yn paratoi myfyrwyr i ffynnu yn yr economi fyd-eang sy'n datblygu'n gyflym. Bydd yn cynnwys mannau dysgu blaengar a hybiau cydweithredol a ddyluniwyd i annog creadigrwydd, meddwl beirniadol ac entrepreneuriaeth.