Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Ysgol Busnes Bangor yw’r unig sefydliad yn y byd i gynnig yr MBA hwn mewn Cyllid Anghyfreithlon – cymhwyster arloesol sy’n dyfarnu MBA ochr yn ochr â’r dynodiad proffesiynol o fod yn Arbenigwr Gwybodaeth Ariannol (FIS).
Mae’r MBA Cyllid Anghyfreithlon yn cyfuno arbenigeddau mewn diogelwch cenedlaethol a deallusrwydd ariannol gyda phecyn cymorth rheoli angenrheidiol i ymdopi a gweithredu’n effeithiol yn amgylchiadau esblygol amddiffyn a diogelwch cenedlaethol, a hynny’n genedlaethol a byd-eang. Mae'r rhaglen arbenigol hon yn ymchwilio i'r agweddau cyfreithiol, rheoleiddiol a diwydrwydd dyladwy o ganfod a lliniaru bygythiadau i ddiogelwch cenedlaethol, gan ystyried randdeiliaid â bwriad troseddol o ogwydd byd-eang.

Mae'r rhaglen, a gyflwynir trwy ddysgu o bell yn rhan-amser gan ddefnyddio technoleg brofedig, yn cyfuno deunyddiau a oedd ar gael yn flaenorol fel rhai hunan-astudio yn unig gan ManchesterCF - cwmni sy’n hen gyfarwydd â darparu cymwysterau gwybodaeth ariannol i fyd diwydiant ledled y byd.
Mae'r MBA Cyllid Anghyfreithlon wedi'i gynllunio i wella rhagolygon gyrfa arbenigwyr mewn diogelwch cenedlaethol ac amddiffyn, yn ogystal â'r rhai sydd â diddordeb mentro i'r maes hwn. Mae'r rhaglen wedi'i theilwra ar gyfer personél milwrol, diogelwch ac amddiffyn, gweision sifil, swyddogion y llywodraeth, a llunwyr polisi. Mae cynulleidfaoedd targed yn cynnwys gweithwyr proffesiynol yng ngwledydd y ‘Five Eyes’ (Awstralia, Canada, Seland Newydd, y Deyrnas Unedig, a'r Unol Daleithiau) a rhwydweithiau tebyg eraill (cynghrair y 9 gwlad, y 14 gwlad ac ati).
Mae'r rhaglen yn darparu archwiliad cynhwysfawr o gyllid anghyfreithlon, gan ganolbwyntio ar feysydd allweddol megis gwyngalchu arian, ariannu terfysgaeth, twyll, ac osgoi cosbau.
Mae'r profiad dysgu uwch hwn yn cynnig pynciau arbenigol, gan gynnwys Cyflwyniad i Droseddau Ariannol, Agweddau Diogelwch Cenedlaethol ar Droseddau Ariannol, Agweddau Dynol ar Droseddau Ariannol, a Safbwyntiau Sefydliadol ar Droseddau Ariannol.
Mae'r rhaglen hefyd yn datblygu cymwyseddau rheoli trwy astudio Ymddygiad Pobl a Sefydliadau, Rheoli Adnoddau, Rheoli Newid, a Strategaeth Gorfforaethol. Rhwng popeth, mae'r modiwlau yn arfogi myfyrwyr i gymryd swyddi uwch yn y sectorau.
Syniad bras o’r modiwlau yn unig sydd yma a gallant newid.
Mae'r MBA Cyllid Anghyfreithlon (IFMBA) yn rhaglen Dysgu o Bell, sy’n gyfuniad unigryw o sesiynau rhyngweithiol ar-lein a hunan-astudio. Wedi'i gynllunio i wneud bywyd yn haws i weithwyr proffesiynol prysur, mae'n lleihau amser i ffwrdd o'r swyddfa ac felly'n cael llai o effaith ar weithrediad y busnes o ddydd i ddydd a diwrnod gwaith y myfyrwyr. Mae elfen dysgu ar-lein y rhaglen FCCMBA yn cael ei chyflwyno gan gyfuniad o ddarlithoedd wedi’u recordio, tiwtorialau byw a Blackboard.
Darperir cefnogaeth academaidd trwy gydol y semester trwy:
- Fforymau trafod
- Sgyrsiau gwe byw
- Sesiynau tiwtorial ar y we gan ddefnyddio ein platfform dysgu ar-lein 'Blackboard'

Mae ManchesterCF yn darparu rhaglenni hyfforddiant gwybodaeth ariannol ar-lein i sefydliadau ariannol, unedau gwybodaeth ariannol ac asiantaethau gorfodi'r gyfraith ledled y byd.
Wedi'u lleoli yn Toronto, mae gan eu hymchwilwyr a'u cyfranwyr ddegawdau o brofiad yn eu priod feysydd. Mae eu harbenigedd yn deillio o brofiad cadarn mewn bancio rhyngwladol, deallusrwydd ariannol a chydymffurfiaeth.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae nifer o lwybrau i astudio’r MBA Cyllid Anghyfreithlon. Yn ogystal â'r rhaglen lawn gellir ei astudio ar lwybr cyflym, cyflym byr ac ar sail modiwl unigol. Bydd y llwybr y byddwch yn ei astudio yn cael ei bennu gan lefel eich cymhwyster a phrofiad gwaith.
Gweler isod rhagor o wybodaeth am strwythur pob llwybr astudio a sylwer mai syniad bras o’r modiwlau yn unig sydd yma a gallant newid.
Mae’r rhaglen yn cynnwys wyth modiwl, pedwar modiwl sy’n canolbwyntio ar bynciau rheolaeth cyffredinol, a phedwar modiwl pwnc-benodol a astudir dros gyfnod o ddwy flynedd. Mae'r MBA Troseddau a Chydymffurfiaeth Ariannol yn cychwyn yn unai Ebrill neu Hydref.
Blwyddyn 1:
Modiwl | Argaeledd Semester |
ASB-9055 Cyflwyniad i Droseddau a Chydymffurfiaeth Ariannol | Ebrill a Hydref |
ASB-9057 Safbwyntiau Sefydliadol ar Droseddau Ariannol Byd-eang | Ebrill a Hydref |
ASB-9035 Pobl ac Ymddygiad Sefydliadol | Ebrill |
ASB-9034 Rheoli Adnoddau: Sefydliad Dadansoddol | Hydref |
Blwyddyn 2:
Modiwl | Argaeledd Semester |
ASB-9061 Agweddau Diogelwch Cenedlaethol Troseddau Ariannol | Hydref |
ASB-9056 Agweddau Dynol ar Droseddau Ariannol Byd-eang | Ebrill |
ASB-9033 Strategaeth Gorfforaethol | Hydref |
ASB-9038 Rheoli Newid: Mewnwelediadau o Farchnata | Ebrill |
Amser safonol ar gyfer cwblhau y rhaglen: 18 mis
Mi fydd myfyrwyr yn astudio 3 modiwl 15 credyd a 3 modiwl 30 credyd.
Blwyddyn 1:
Modiwl | Argaeledd Semester |
ASB-9057 Safbwyntiau Sefydliadol ar Droseddau Ariannol Byd-eang | Ebrill a Hydref |
ASB-9035 Pobl ac Ymddygiad Sefydliadol | Ebrill |
ASB-9034 Rheoli Adnoddau: Sefydliad Dadansoddol | Hydref |
Blwyddyn 2:
Modiwl | Argaeledd Semester |
ASB-9061 Agweddau Diogelwch Cenedlaethol Troseddau Ariannol | Hydref |
ASB-9056 Agweddau Dynol ar Droseddau Ariannol Byd-eang | Ebrill |
ASB-9033 Strategaeth Gorfforaethol | Hydref |
ASB-9038 Rheoli Newid: Mewnwelediadau o Farchnata | Ebrill |
Amser safonol ar gyfer cwblhau y rhaglen: 24 mis
Mi fydd myfyrwyr yn astudio 4 modiwl 30 credyd.
Blwyddyn 1:
Modiwl | Argaeledd Semester |
ASB-9055 Cyflwyniad i Droseddau a Chydymffurfiaeth Ariannol | Ebrill a Hydref |
ASB-9057 Safbwyntiau Sefydliadol ar Droseddau Ariannol Byd-eang | Ebrill a Hydref |
Blwyddyn 2:
Modiwl | Argaeledd Semester |
ASB-9061 Agweddau Diogelwch Cenedlaethol Troseddau Ariannol | Hydref |
ASB-9056 Agweddau Dynol ar Droseddau Ar |