È«Ãñ²ÊƱ

Fy ngwlad:
A group around a table with laptops and phones

Y Clinig Busnes

Yma i helpu busnesau i gael y cyngor a'r cymorth sydd eu hangen arnynt.  

Business People at a Table

Amdanom Ni

Mae’r Clinig Busnes yn cydnabod y cysylltiadau hir sefydlog gyda diwydiant sydd gan yr Ysgol Busnes ac yn gwahodd busnesau newydd a darpar fusnesau i fanteisio ar y cyfoeth o brofiad sydd gan yr Ysgol Busnes i’w gynnig.  Trwy'r Clinig Busnes, gall perchnogion busnes presennol a darpar berchnogion busnes gael mynediad at wybodaeth, sgiliau a phrofiad arweinwyr heddiw ac arweinwyr y dyfodol, sef ein myfyrwyr.

CYMERWCH RAN

Gall gweithwyr busnes proffesiynol heddiw a gweithwyr busnes y dyfodol fod yn rhan o’r Clinig Busnes mewn sawl ffordd:

  • Fel siaradwr gwadd
  • Cyflwyno her fusnes i'n myfyrwyr mewn sesiwn gweithdy
  • Fel cleient i'n myfyrwyr ymgynghorol
  • Gweithio gydag un o'n myfyrwyr traethawd hir
  • Cynnig interniaeth neu brofiad gwaith
  • Cymryd rhan mewn ymchwil gyda'n hymchwilwyr academaidd
  • A llawer mwy!​