Mae Undeb Bangor yn ganolfan i fyfyrwyr Bangor ac yn gyfrifol am drefnu chwaraeon, clybiau, cymdeithasau a phrojectau gwirfoddoli ac rydym hefyd yn gartref i Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor, yr undeb myfyrwyr i siaradwyr Cymraeg. Wedi'i leoli ar 4ydd llawr adeilad Pontio, mae'n siop un stop am wybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd.
Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB) sy'n ganolbwynt i'r rhan helaeth o'r digwyddiadau a'r gweithgareddau hamdden a chymdeithasol - yn amrywio o nosweithiau cymdeithasol, Eisteddfod a Dawns Ryng-golegol i gemau p锚l-droed a rygbi, a theithiau blynyddol i'r Iwerddon neu'r Alban.
UMCB
Mae bywyd cymdeithasol Cymraeg heb ei ail ym Mangor, ac Undeb Myfyrw