Siarter Myfyrwyr Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor ac Undeb y Myfyrwyr wedi cydweithio i ddatblygu’r Siarter hon. Gwyddom y gallwn gyflawni mwy mewn partneriaeth ac mae’r Siarter hon yn amlinellu ein hymrwymiad i wella profiad addysgol pob myfyriwr yn barhaus. Y bwriad yw rhoi trosolwg o’r cyfrifoldebau a’r disgwyliadau ar bob partner – y Brifysgol, Undeb y Myfyrwyr a phob myfyriwr. Caiff ei adolygu bob blwyddyn i wneud yn siŵr ei fod yn parhau i fod yn berthnasol.
Bydd Prifysgol Bangor yn:
- Darparu rhaglen academaidd ragorol wedi’i hysbrydoli gan yr ymchwil diweddaraf.
- Sicrhau bod myfyrwyr yn derbyn arweiniad academaidd priodol.
- Darparu cyfleusterau addysgu, dysgu ac ymchwil o safon uchel.
- Darparu modiwlau wedi'u trefnu'n dda sy'n ymrwymo i ryddhau adnoddau dysgu mewn modd amserol, fel y gallwch gynllunio'n briodol.
- Gosod terfynau amser ar gyfer darparu adborth asesu gan sicrhau bod gwybodaeth glir, hawdd cael mynediad ato ar gael i fyfyrwyr ar sut a phryd y bydd adborth yn cael ei ddarparu.
- Gwneud pob ymdrech resymol i sicrhau parhad modiwlau dewisedig myfyrwyr, hysbysu, a gweithio gyda myfyrwyr i liniaru unrhyw effaith bosibl pan nad yw parhad yn bosibl mwyach.
- Gweithredu system effeithiol i sicrhau ansawdd a safonau academaidd.
- Darparu datblygiad staff perthnasol.
- Ymrwymo i ddarparu gwybodaeth gyfredol a thryloyw i fyfyrwyr am gostau astudio.
Bydd Undeb y Myfyrwyr yn:
Disgwylir i fyfyrwyr:
- mewn da bryd, a phan gewch e-bost i wneud hynny.
- Darllen llawlyfrau eich cwrs a modiwlau.
- Paratoi at ddosbarthiadau a darllen testunau gosod ymlaen llaw.
- Cynnal astudiaeth annibynnol a, lle bo'n briodol ar gyfer y lefel astudio, ymgymryd ag ymchwil i gefnogi dysgu a chanlyniadau.
- Cwblhau a chyflwyno eich asesiadau erbyn dyddiadau cau penodedig.
- Casglu’n brydlon eich gwaith pan fydd wedi’i farcio, ac ystyried yr adborth a roddwyd er mwyn gwella eich gwaith yn y dyfodol
- Cofrestru gyda’r Gwasanaethau Anabledd os oes arnoch angen addasiadau sy’n ymwneud ag anabledd a’u rhoi ar waith.
Bydd Prifysgol Bangor yn:
Sicrhau ein bod yn gweithredu ein polisi dwyieithog fel eich bod yn cael:
- Astudio drwy gyfrwng y Gymraeg lle bynnag y bo modd.
- Cynnig tiwtor personol sy'n siarad Cymraeg ar ddechrau'r flwyddyn academaidd.
- Cyflwyno asesiadau drwy gyfrwng y Gymraeg, beth bynnag oedd yr iaith hyfforddi a chael adborth yn Gymraeg lle bynnag y bo modd.
- Mynediad at wasanaethau cefnogi proffesiynol drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Ymwneud â’r Brifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Dysgu Cymraeg neu ddatblygu sgiliau pellach yn y Gymraeg trwy ddosbarthiadau a modiwlau penodol.
Bydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn:
- Cynnal etholiad i ethol Llywydd UMCB o blith y myfyrwyr i weithio’n llawn amser i gynrychioli myfyrwyr Cymraeg eu hiaith.
- Represent the interests of all Welsh speakers and learners at È«Ãñ²ÊƱ through the Bangor Welsh Student Union (UMCB).
- Provide and support activities through the medium of Welsh which promote Welsh culture and heritage.
Disgwylir i fyfyrwyr:
- Cofleidio a pharchu ethos dwyieithog Prifysgol Bangor, yn unol â’n Polisi Dwyieithod, gan gydnabod y bydd holl gyfathrebiadau ysgrifenedig swyddogol y Brifysgol yn cael eu darparu’n gyson yn y ddwy iaith.
Bydd Prifysgol Bangor yn:
- Sicrhau bod prynhawniau Mercher, ar ôl 12pm yn rhydd heb astudiaethau academaidd ar yr amserlen, gan gyhoeddi unrhyw eithriadau na ellir eu hosgoi.
- .
- Rhoi cyfleoedd i chi ddatblygu eich cyflogadwyedd, yn cynnwys y cyfle i gymryd rhan yng nghynllun .
- .
- Rhoi cyfleoedd i chi astudio, cael lleoliadau a gwirfoddoli dramor.
- Cefnogi Undeb Bangor i ddarparu gweithgareddau datblygiad personol ac allgyrsiol.
Bydd Undeb y Myfyrwyr yn:
- Cefnogi a darparu gweithgareddau sy’n hyrwyddo eich sgiliau all-gwricwlaidd a chyfrannu at eich cyflogadwyedd.
Disgwylir i fyfyrwyr:
- Ymgysylltu â chyfleoedd sydd ar gael ar draws y brifysgol o ran eu cyflogadwyedd a’u datblygiad personol.
Bydd Prifysgol Bangor yn:
- Darparu cefnogaeth academaidd a bugeiliol briodol.
- Darparu Cynllun Arweinwyr Cyfoed yn ystod yr wythnos groeso i gefnogi myfyrwyr newydd wrth gyrraedd ac wrth iddynt ymgynefino.
- Darparu fannau dysgu a chymdeithasol hygyrch o ansawdd uchel i chi ar draws y campws.
- Sicrhau mynediad rhwydd at wybodaeth gyffredinol am y brifysgol a’i threfniadaeth.
- Meithrin amgylchedd prifysgol cynhwysol sy'n seiliedig ar barch y naill at y llall ac sy'n rhydd rhag gwahaniaethu ac aflonyddu.
- .
- .
- Gweithio i sicrhau diogelwch myfyrwyr ar y campws ac yn y gymuned.
- .
- Darparu hyfforddiant cydraddoldeb ac amrywiaeth a diogelu rheolaidd i'r holl staff sy'n gweithio efo myfyrwyr yn rheolaid.
Bydd Undeb y Myfyrwyr yn:
- Sicrhau fod popeth maen nhw'n ei wneud yn cynnal ein hymrwymiad i gyfleoedd cyfartal a’i chorff amrywiol o fyfyrwyr.
Disgwylir i fyfyrwyr:
- Cadw at holl reoliadau’r brifysgol, gan gynnwys y ar gyfer myfyrwyr.
- Cynnal diwylliant o degwch a pharch tuag at eich cyfoedion a staff y Brifysgol, gan feithrin cymuned academaidd gynhwysol a chydweithredol.
- Trin ein cymuned myfyrwyr a staff amrywiol gyda chwrteisi, urddas a pharch, yn cynnwys wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol.
- Parchu eich amgylchedd ar y campws ac oddi arno, ac ymddwyn yn ystyriol tuag at y gymuned leol yr ydym i gyd yn rhan ohoni.
- Rhoi gwybod i ni am unrhyw beth a fo’n effeithio ar eich astudiaethau, fel y gallwn eich cefnogi a’ch cynghori.
- Mynd ati i geisio cefnogaeth bersonol, os byddwch yn teimlo eich bod angen hynny.
- Gwneud defnydd llawn o’n system tiwtoriaid personol.
Bydd Prifysgol Bangor yn:
- Gweithio mewn partneriaeth ag Undeb Bangor i gael system Cynrychiolwyr Cwrs effeithiol drwy ymgysylltu â Chynrychiolwyr Cwrs a sicrhau bod gwybodaeth am Gynrychiolwyr Cwrs yn cael ei chyhoeddi i chi ei gweld.
- , a defnyddio'ch adborth i ddatblygu a gwella'ch profiad dysgu yn barhaus.
- Sicrhau bod cyfarfodydd Cyswllt Staff-Myfyrwyr yn cael eu cynnal yn rheolaidd ac wedi’u dogfennu’n dda yn unol â Chod Ymarfer Cynrychiolwyr Cwrs.
- Sicrhau bod buddiannau’r myfyrwyr yn cael eu gwarchod ac yn cydweithio ag
Bydd Undeb y Myfyrwyr yn:
- o blith y myfyrwyr sy’n gweithio’n llawn-amser i ymestyn ac amddiffyn eich hawliau fel myfyrwyr yn y Brifysgol, ar draws pob campws a modd astudio.
- Ymgyrchu ar faterion perthnasol i chi drwy gasglu tystiolaeth a cheisio eich barn ar eich gwaith mewn modd blaengar.
- drwy’r holl Brifysgol a rhoi hyfforddiant digonol i’r cynrychiolwyr hyn.
- Gweithio gyda'r Ysgol Ddoethurol ac Ôl-radd i gynrychioli myfyrwyr ôl-radd ar draws amrywiaeth o gyfleoedd ymgysylltu a llais a arweinir gan fyfyrwyr.
Disgwylir i fyfyrwyr:
- Ymgysylltu â'u Cynrychiolwyr Cwrs ac Arweinwyr Rhwydweithiau Myfyrwyr a defnyddio sianeli priodol i roi adborth.
- Cymryd cyfrifoldeb i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y sianeli adborth a’r cyfleoedd democrataidd sydd ar gael.
Bydd Prifysgol Bangor yn:
- Darparu gwybodaeth i fyfyrwyr newydd am drefniadau croeso a chofrestru cyn iddynt gyrraedd.
- Darparu gwybodaeth glir am eich modiwlau a’ch rhaglen cyrsiau / ymchwil a manylion asesu.
- Cyfathrebu â chi mor gyflym ac effeithiol â phosibl.
- Rhoi gwybodaeth i chi ymlaen llaw am eich amserlen ac unrhyw newidiadau iddi.
- .
Bydd Undeb y Myfyrwyr yn:
- Darparu gwybodaeth am ymgysylltu â a
- Rhoi gwybod i fyfyrwyr am eu gwaith cynrychioli.
Disgwylir i fyfyrwyr:
- Edrych yn gyson ar eich .
- Ymgysylltu yn rheolaidd â'r Bwletin Myfyrwyr (cylchlythyr wythnosol y Brifysgol ar gyfer myfyrwyr).
- Sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol yn gyfredol.