Dathlu Llwyddiant : Disgyblion o Ogledd Cymru yn Ennill rhai o’r Prif Wobrau yng Nghystadleuaeth Pont Tsieinëeg y Deyrnas Unedig!
Mae’n bleser cael rhannu'r newyddion gwych bod dwy ddisgybl o ogledd Cymru wedi cael llwyddiant yn rownd derfynol y Bont Tsieinëeg, sef cystadleuaeth siarad Mandarin.
Enillodd Lily Braiden o Ysgol Eirias y Wobr Gyntaf yn y categori Canolradd Plws, tra cafodd Niki Scherer o Ysgol Friars y Drydedd Wobr yn y categori Canolradd.
Mae hynny’n gryn lwyddiant ac yn adlewyrchu ymrwymiad, brwdfrydedd a thalent y ddwy ddisgybl. Rydym yn llongyfarch Lily a Niki yn gynnes ar eu llwyddiant ac yn estyn ein diolch a'n gwerthfawrogiad diffuant i'w tiwtor, Yuanyuan Luo, am ei hymroddiad, ei hanogaeth a'i haddysgu arbennig.
Mae eu llwyddiant yn amlygu cystal y gellir dysgu Mandarin yng ngogledd Cymru a pha effaith y gall hynny ei gael, ac rydym yn hynod falch o weld eu gwaith caled yn cael ei gydnabod ar lefel genedlaethol.