Mae Cronfa Bangor wedi galluogi'r Adran Gelfyddydau i drefnu gweithdy Addysg Gerddoriaeth gyda Berwyn Jones
Fe wnaeth cyfraniad hael gan Gronfa Bangor alluogi Adran y Celfyddydau i drefnu gweithdy Addysg Gerdd gyda Berwyn Jones, Cyfarwyddwr Cerdd y prosiect cerdd Sistema lleol, . Mae Berwyn hefyd yn gweithio fel tiwtor offerynnol preifat ac mae’n berfformiwr rhyngwladol gyda'r band llwyddiannus, . Mynychwyd y gweithdy gan 25 o fyfyrwyr o'r modiwl 'Addysgu Cerddoriaeth mewn Cyd- destun', yn ogystal â myfyrwyr sy’n dilyn y rhaglen MA Addysg Cerddoriaeth. Cafodd y myfyrwyr brofiadau gwerthfawr wrth ddysgu am agweddau theoretig ac ymarferol o addysgu cerddoriaeth i ddosbarthiadau cyfan e.e. dull Kodály.
Dywedodd Ava, myfyriwr 3edd flwyddyn sy'n dilyn y modiwl 'Addysgu Cerddoriaeth mewn Cyd-destun', "Roedd mor ysbrydoledig gwrando ar yr hyn y mae Berwyn wedi'i wneud yn ei yrfa a sut mae'n rhoi cyfle i blant ifanc ddysgu cerddoriaeth!"
Ychwanegodd Ivonne, myfyriwr ôl-radd ar y rhaglen MA mewn Addysg Cerddoriaeth, "Roedd mor ddefnyddiol fod Berwyn wedi dangos ffyrdd o wneud addysg gerddorol yn hygyrch drwy weithgareddau ymarferol, syml a blaengar, hyd yn oed gyda grwpiau mawr."
Wrth fyfyrio ar ei brofiad o weithio gyda'n myfyrwyr yn ystod y gweithdy, nododd Berwyn "Roedd yn wych gweithio gyda'r grŵp hwn, eu cyflwyno i syniadau newydd a'u gweld yn ymateb yn y foment i'r syniadau hyn. Rwy'n gobeithio y bydd y gweithdy hwn yn cynnig dull newydd iddynt o addysgu cerddoriaeth yn y dyfodol.
Mae Cronfa Bangor yn cynnwys rhoddion gan ein cyn-fyfyrwyr hael, ac yn cael ei gweinyddu gan y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni. Rydym yn hynod ddiolchgar am eu cyfraniad ac am wneud y gweithdy hwn yn bosibl.
Rydym yn hynod ddiolchgar i gyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor am eu cefnogaeth barhaus i Gronfa Bangor. Mae eu cefnogaeth yn ei gwneud yn bosib i ni gefnogi projectau fel hyn, gyda’r nod o gyfoethogi profiadau ein myfyrwyr, a chryfhau eu cysylltiad â’r â'u crefft.
Persida Chung, Swyddog Datblygu