Datgelodd yr astudiaeth, a ddadansoddodd ymatebion gan sampl cenedlaethol o oedolion yng Nghymru, fod unigolion a oedd wedi profi profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (e.e., cam-drin plant, rhieni’n defnyddio sylweddau) neu brofiadau negyddol yn yr ysgol (e.e. cael eu bwlio neu fod â llai o ymdeimlad o berthyn i’r ysgol) yn fwy tebygol o brofi iechyd meddwl gwael, gan gynnwys llesiant meddyliol isel a salwch meddwl presennol a chydol oes. Amlygodd yr ymchwil hefyd effaith gronnus profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a phrofiadau negyddol yn yr ysgol o ran cynyddu’r risgiau i iechyd.
Yn ôl yr astudiaeth, dim ond 6 y cant o’r unigolion nad oedd wedi profi’r un profiad niweidiol yn ystod plentyndod a ddywedodd eu bod yn cael eu bwlio a bod ganddynt ymdeimlad is o berthyn i’r ysgol, o’u cymharu â 51 y cant o’r rhai a oedd wedi profi pedwar neu fwy o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Mae hyn yn awgrymu bod plant sy’n profi adfyd gartref hefyd yn fwy agored i adfyd ychwanegol yn yr ysgol.
Mae systemau ysgol yn chwarae rhan hanfodol yn natblygiad sgiliau cymdeithasol ac emosiynol plant a gallant fod yn amgylcheddau diogel a chefnogol i'r rhai sy'n wynebu anawsterau gartref. Fodd bynnag, gall profiadau niweidiol yn ystod plentyndod gael eu cysylltu ag ymgysylltiad is disgyblion â’u hysgolion, mwy o absenoldebau, a risg uwch y byddant yn cael eu gwahardd oherwydd heriau eu hymddygiadau. Gall plant yr effeithir arnynt gan brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod gael trafferthion o ran datblygu eu sgiliau academaidd a chymdeithasol sylfaenol, a all effeithio ar eu gallu i ddysgu a ffurfio perthnasoedd cadarnhaol gyda’u cyfoedion a’u hathrawon.
Yn galonogol, awgrymodd yr astudiaeth hefyd y gall profiadau cadarnhaol yn yr ysgol helpu i liniaru effeithiau negyddol profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Ymhlith oedolion a adroddodd eu bod wedi profi pedwar neu fwy o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn ystod eu plentyndod, gostyngodd y gyfran wedi’i haddasu a oedd yn adrodd bod ganddynt salwch meddwl presennol o 44 y cant ymhlith y rhai a oedd wedi cael eu bwlio ac roedd ganddynt ymdeimlad isel â’u hysgolion, i 19 y cant ymhlith y rhai â phrofiadau mwy cadarnhaol yn yr ysgol. Mae hyn yn amlygu’r rôl amddiffynnol y gall ysgolion ei chwarae wrth feithrin gwydnwch ymhlith plant sy’n profi adfyd.
Yng Nghymru, mae ymdrechion i gefnogi plant sydd wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod wedi cynnwys hyfforddi staff yr ysgolion a sefydliadau addysgol eraill i ddeall a mynd i’r afael ag effaith adfyd plentyndod yn well. Yn ogystal, mae mentrau sy'n hyrwyddo ysgolion ac asiantaethau eraill i gydweithio yn anelu at sicrhau bod cefnogaeth barhaus ar gael i blant a theuluoedd. Mae wedi’i roi ar waith ar draws sefydliadau addysgol yng Nghymru, yn ogystal ag mewn ystod o wasanaethau cyhoeddus a thrydydd sector.
Dywedodd yr Athro Karen Hughes, Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae’r astudiaeth hon yn tanategu pwysigrwydd sicrhau bod ysgolion yn fannau diogel a chefnogol i blant sy’n wynebu adfyd. Trwy feithrin profiadau cadarnhaol