
Bydd gardd sydd wedi derbyn y Wobr Gorau yn y Categori a Medal Aur yn Sioe Flodau byd-enwog RHS Chelsea yr wythnos hon yn cael ei symud i Ardd Fotaneg Treborth Prifysgol Bangor, dafliad carreg o’r Fenai, dros yr haf.
Mae stiwdio dylunio gerddi yn Eryri, Studio Bristow, yn arddangos yr ardd hudolus a bioamrywiol ‘Popeth am Blanhigion/All About Plants’ yn Sioe Flodau Chelsea yr RHS 2024, mewn cydweithrediad â’r elusen newid hinsawdd, . Cefnogir yr ardd gan 'Project Giving Back', elusen sy'n rhoi grantiau unigryw sy'n cefnogi gerddi at achosion da yn RHS Chelsea. Nod y dyluniad yw dod â bioamrywiaeth gyfoethog bywyd planhigion mewn coedwigoedd trofannol i'r amlwg, a thalu sylw i ganlyniadau dinistriol datgoedwigo.
Roedd disgwyl eiddgar am ardd Maint Cymru, sy’n dangos ymrwymiad Studio Bristow i ddylunio gerddi arloesol a stiwardiaeth amgylcheddol. Maent wedi partneru â Maint Cymru, elusen newid hinsawdd sy’n gweithio gyda phobl frodorol a lleol ledled y byd i ddiogelu o leiaf 2 filiwn hectar o goedwigoedd trofannol (ardal maint Cymru) a thyfu miliynau o goed. Gyda'i gilydd, maent yn ymdrechu i godi ymwybyddiaeth o fater hollbwysig datgoedwigo a'i effaith ar fioamrywiaeth fyd-eang.
