Mae Prifysgol Bangor yn cydweithio ar brosiect sydd yn cael ei arwain gan gan gynhyrchydd cloroffyl mwyaf Gorllewin Ewrop, Blankney Estates Ltd, i weld a allai’r swm mawr o gwyr glaswellt y mae’n ei gynhyrchu fel rhan o’r broses cynhyrchu cloroffyl gael ei ddefnyddio fel dewis mwy cynaliadwy i reolaethau ffwngladdiaid presennol ar gyfer malltod tatws hwyr.
Ariennir y prosiect 12 mis gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) drwy’r Rhaglen Arloesi Ffermio, a ddarperir mewn partneriaeth ag Innovate UK.
Mae malltod tatws hwyr yn arwain at golledion blynyddol o hyd at £50miliwn i ffermwyr y DU ac fe’i hachosir gan organeb tebyg i ffwng (Phytophthora infestans) sy’n achosi difrod i’r dail, gyda’r coesyn a’r tatws yn pydru yn y pen draw.
Mae Arweinydd y Prosiect Blankney Estates, sydd wedi’i leoli yn Swydd Lincoln yng Ngogledd Lloegr, yn ffermio 14,000 erw o dir, ac yn tyfu ystod eang o gnydau âr i’w bwyta gan bobl, porthiant anifeiliaid a chynhyrchu ynni. Mae 1,500 erw o'r tir yma’n tyfu math o laswellt o'r enw peiswellt uchel ar gyfer echdynnu cloroffyl, a ddefnyddir mewn ystod o gymwysiadau bwyd, fferyllol a chosmetig, yn bennaf fel lliw gwyrdd naturiol. Yn ystod y broses o echdynnu pigment cloroffyl, cynhyrchir llawer o gwyr glaswellt naturiol sydd wedi yn cael ei daflu.