System newydd Prifysgol Bangor ar gyfer gwyliadwriaeth iechyd y cyhoedd trwy ddadansoddi dŵr gwastraff yn derbyn Gwobr Pen-blwydd y Frenhines
Mae Ei Fawrhydi’r Brenin wedi cymeradwyo dyfarnu Gwobrau Pen-blwydd y Frenhines i ddau ar hugain o sefydliadau Addysg Uwch ac Addysg Bellach ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Prifysgol Bangor.
Rhannwch y dudalen hon
Cafodd Prifysgol Bangor ei chydnabod am ei gwaith ar ddatblygu system newydd ar gyfer gwyliadwriaeth iechyd y cyhoedd drwy ddadansoddi pathogenau niweidiol mewn dŵr gwastraff. Defnyddiwyd y system yn genedlaethol yn ystod pandemig COVID-19 ac mae bellach wedi'i haddasu i fesur ystod eang o ddangosyddion iechyd cyhoeddus.
Cyhoeddwyd enillwyr y Gwobrau mewn derbyniad ym Mhalas St James yn Llundain. Bydd seremoni Anrhydeddau ffurfiol yn cael ei chynnal y flwyddyn nesaf.
