Mae Prifysgol Bangor ac Adra, darparwr tai cymdeithasol mwyaf Gogledd Cymru, wedi arwyddo Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MoU) i ddatblygu sgiliau ac ymchwil i ddatgarboneiddio stoc tai.
Mae’r cytundeb yn gweld Prifysgol Bangor yn dod yn bartner allweddol yn yr Hwb Datgarboneiddio, cyfleuster a sefydlwyd ym Mhenygroes yn 2021 gyda’r cwmni deunyddiau adeiladu Travis Perkins, a gefnogir gan Gronfa Adnewyddu Cymunedol Llywodraeth y DU a Chronfa Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Bydd yr Hwb Datgarboneiddio yn gweithredu fel cyfleuster i arloesi, darparu hyffordd