Mae ystafelloedd En-suite (9.94m²) Clasur ar gyfer siaradwyr a dysgwyr Cymraeg yn cynnig profiad bywiog a chyfleus ym Mhentref Ffriddoedd. Maent yn ystafelloedd sengl cyfforddus gydag ystafell ymolchi breifat. Mae pob ystafell wedi ei dodrefnu ac yn cynnwys y cyfleusterau hanfodol.

CYMRWCH DAITH RITHIOL O'R YSTAFELL HON
Archwiliwch yr ystafell hon o gysur eich soffa. Am brofiad cwbl ymdrochol, defnyddiwch eich penset VR a'i wylio ar sgrin lawn. Defnyddiwch y saethau cyfeiriadol i edrych o gwmpas a'r eicon chwyddo i gael golwg agosach. Mae'r eicon cartref yn mynd â chi'n ôl i'r man cychwyn. Os oes taith dywysedig ar gael, defnyddiwch y botwm chwarae i’w dechrau.
FAINT FYDD Y GOST I FYW YMA?
Dyw hi byth yn rhy gynnar i ddechrau cyllidebu. Amlinellir isod y costau rhentu, hyd y cytyndeb a'r costau ychwanegol dewisol ar gyfer y math yma o lety.