È«Ãñ²ÊƱ

Fy ngwlad:

Bryn Eithin

Cost a hyd y cytundeb

2024-25

Cyfnod Gosod ar gyfer israddedigion a&²Ô²ú²õ±è;ô±ô-°ù²¹»å»å±ð»å¾±²µ¾±´Ç²Ô

Hyd Cytundeb: Tua 42 Wythnos (Israddedigion) / 51 Wythnos (Ôl-raddedigion)

22 Medi 2024 – 12 Gorffennaf 2025 (Israddedigion) / 13 Medi 2025 (Ôl-raddedigion)

Noder bod disgwyl i Fyfyrwyr Rhyngwladol (at ddibenion ffioedd) gyrraedd Bangor ddydd Mercher y 18 Medi ar gyfer cyfnod Gogwydd i Fyfyrwyr Rhyngwladol. Felly, bydd Cytundebau Preswyl i Fyfyrwyr Rhyngwladol yn rhedeg o 18 Medi gyda chynnydd bach cyfatebol mewn ffioedd. Bydd cyfanswm eich ffioedd neuadd yn dangos ar eich Cytundeb Preswyl.

Rhent

£3,641.58 (Israddedigion) - tua £87 yr wythnos

£4,474.30 (Ôl-raddedigion) - tua £87 yr wythnos

2023-24

Cyfnod Gosod ar gyfer israddedigion a ôl-raddedigion 

Hyd Cytundeb: Tua 40 Wythnos (Israddedigion) / 51 Wythnos (Ôl-raddedigion)

17 Medi 2023 – 22 Mehefin 2024 (Israddedigion) / 07 Medi 2024 (Ôl-raddedigion)

Noder bod disgwyl i Fyfyrwyr Rhyngwladol (at ddibenion ffioedd) gyrraedd Bangor ddydd Mercher y 13 Medi ar gyfer cyfnod Gogwydd i Fyfyrwyr Rhyngwladol. Felly, bydd Cytundebau Preswyl i Fyfyrwyr Rhyngwladol yn rhedeg o 13 Medi gyda chynnydd bach cyfatebol mewn ffioedd. Bydd cyfanswm eich ffioedd neuadd yn dangos ar eich Cytundeb Preswyl.

Rhent

£3,467.58 (Israddedigion) - tua £87 yr wythnos

£4,474.30 (Ôl-raddedigion) - tua £87 yr wythnos

Taith o gwmpas Bryn Eithin

Trawsgrifiad o Bryn Eithin

Dyma faes parcio Bryn Eithin, ym Mhentref y Santes Fair. Mae ardal barbeciw a mainc bicnic ar y lawnt.

Dyma’r cyntedd ac mae dau ddrws i fynd i mewn i bob fflat. Mae grisiau sy’n mynd i fyny i’r tri llawr arall, sylwch nad oes lifft i’w gael. Mae yna hysbysfwrdd lle cewch weld gwybodaeth bwysig a manylion am eich mentoriaid neuadd.  Mae wyth ystafell wely ym mhob fflat ynghyd â dwy ystafell ymolchi a chegin.

Dyma’r gegin fwyta; mae yno fwrdd a meinciau i wyth o bobl a dwy soffa. Mae yna ddwy oergell-rewgell, popty a dau hob. Mae yno hefyd ficrodon, tostiwr a thegell. Mae dwy sinc ac mae digon o le storio yng nghypyrddau’r gegin ar gyfer yr wyth preswylydd. Mae sugnwr llwch, bwrdd smwddio, mop a bwced, a brwsh a phadell lwch i chi eu defnyddio. Mae yno hysbysfwrdd lle ceir gwybodaeth bwysig am iechyd a diogelwch. Trwy’r ffenestr fawr cewch olygfa o'r maes parcio, ac o’r lloriau uchaf ceir golygfeydd dros Fangor.