Mae Prifysgol Bangor yn gweithio mewn partneriaeth â Cover4insurance, darparwr yswiriant myfyrwyr gorau’r Deyrnas Unedig, i yswirio’r eiddo y tu mewn i’ch ystafell. Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth i roi’r yswiriant hwn ar waith, ond mae'n bwysig i chi wirio a sicrhau eich bod yn deall yn llawn y lefel o yswiriant a ddarperir ac a yw'n ddigonol ar gyfer eich anghenion.
Rhif y polisi yw: BANG2024
Ewch i’r dudalen we i wneud y canlynol:
- Gwirio lefel eich yswiriant
- Adolygu eithriadau a chyfyngiadau allweddol
- Gwirio’r tâl ychwanegol y bydd gofyn i chi ei dalu pe byddwch yn gwneud hawliad
- Dysgu sut i hawlio trwy eich yswiriant
- Ychwanegu at eich yswiriant a’i bersonoli i ddiogelu gliniaduron, ffonau a phethau gwerthfawr eraill
Mae Cover4insurance yn gwybod y gall bywyd ddod i stop heb eich eiddo, felly mae'n werth treulio ychydig funudau’n g