Mae Prosiect Penrhyn yn un o fentrau craidd Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru. Mae’n dod â rhwydwaith rhanbarthol bywiog o bartneriaid dreftadaeth ddiwylliannol, cymuned, busnes ac academaidd ynghyd i ennyn ymgysylltiad gwell â hanes lleol a byd-eang ystâd y Penrhyn.
O’r adeg y datblygodd yn y cyfnod canoloesol hyd at ddechrau’r ugeinfed ganrif, stad y Penrhyn oedd y grym pennaf ym mywyd gogledd orllewin Cymru. Roedd y dylanwad hwn yn ymestyn ar draws tirddaliad enfawr ac yn cynnwys pob elfen o gymdeithas – o diwydiant, gwleidyddiaeth, diwylliant a chrefydd i bensaernïaeth, iaith, ffermio a rheoli tir. Mae stori ac etifeddiaeth Penrhyn yn gymhleth ac yn amlochrog, yn hynod leol a rhyngwladol o ran maint – ac wedi’u trwytho â llinynnau pwysig o gryn ddadlau a chynnen, yn arbennig pa mor ganolog yw’r fasnach gaethweision drawsiwerydd i hanes yr ystâd a’i rôl hanfodol yn hanes llechi, gan gynnwys Streic Fawr Chwarel y Penrhyn 1900-03.

Mae Penrhyn wedi bod yn ganolog i hanes, tirweddau a hunaniaeth gogledd orllewin Cymru ers y cyfnod canoloesol, ac eto mae yna brinder o ymchwil arno. Mae Prosiect Penrhyn wedi’i sefydlu gan Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru i gydnabod bod Penrhyn yn cynnig prism rhagorol ar gyfer archwilio hanes y rhanbarth, ei gymunedau a chysylltiadau â’r byd ehangach. Mae gan y rhaglen ymchwil a gynhyrchir gan Brosiect Penrhyn y potensial i fod yn drawsnewidiol: gan archwilio naratifau sefydledig, cwestiynu canfyddiadau a mythau traddodiadol a darparu dehongliad trwyadl sy’n cynnig newid sylweddol ar gyfer dealltwriaeth o, ac ymgysylltu â, hanes lleol, diwylliant, tirweddau a hunaniaeth Gwynedd.
Ategwyd Prosiect Penrhyn gan gwblhad prosiect catalogio mawr yn Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor, sy’n hwyluso mynediad i’r corpws llawn o gofnodion a gynhyrchwyd gan deuluoedd ac ystâd y Penrhyn am y tro cyntaf. Mae’r prosiect hefyd yn cydblethu â dwy fenter gysylltiedig bwysig sy’n addo gwneud cyfraniadau pellgyrhaeddol tuag at ddatblygu a hyrwyddo treftadaeth, diwylliant, twristiaeth ac economi’r rhanbarth, sef Llechi Cymru | Cais Treftadaeth y Byd UNESCO Llechi Cymru a strategaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer trawsnewid y ffordd y mae stori Castell Penrhyn yn cael ei chyflwyno i’r cyhoedd trwy feysydd cydgysylltiedig dehongli treftadaeth, profiad ymwelwyr ac ymgysylltu â’r gymuned.
Archif Stad y Penrhyn

Mae Castell Penrhyn, sydd wedi'i leoli ar gyrion Bangor, yn un o brif plasdai'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru. Am ganrifoedd bu’n sylfaen grym i un o’r ystadau mwyaf a mwyaf dylanwadol yng Nghymru.
Mae Archif Ystad y Penrhyn yn gyfres barhaus o gofnodion a grëwyd gan y stad a’i pherchnogion olynol: teuluoedd Gruffydd, Williams, Pennant a Douglas-Pennant, rhwng y drydedd ganrif ar ddeg a’r ugeinfed ganrif. Roedd yn un o’r archifau ystad mwyaf a gafwyd gan Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor yn ystod canol yr ugeinfed ganrif, i ddechrau trwy adnau mawr ym mis Mawrth 1939, gyda chroniadau sylweddol ym mis Chwefror a mis Medi 1966 ac ym 1999.
Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd ystâd y Penrhyn yn ymestyn i tua 72,000 erw, sef yr ystâd drydedd fwyaf yng Nghymru. O’r adeg y datblygodd yn y cyfnod canoloesol, bu’n rym tra-arglwyddiaethol ym mywyd gogledd orllewin Cymru, yn ymestyn ar draws sylfaen dirddaliad enfawr ac yn cael effaith ddwys ar bob agwedd o gymdeithas, yn amrywio o ddiwydiant, gwleidyddiaeth, diwylliant a chrefydd, drwodd i bensaernïaeth, iaith, ffermio a thirwedd. Mae'r archif yn cynnwys cofnodion yn ymwneud â'r uchod i gyd - o ran amrywiaeth ei cynnwys a'i faint does dim casgliad cystal ymhlith archifau ystadau Bangor.
Mae’r rhan fwyaf o’r cofnodion yn ymwneud â chaffael, cydgrynhoi, rheoli ac etifeddu’r ystad – gweithredoedd teitl, setliadau, rhenti, cyfrifon, gohebiaeth, mapiau ac arolygon. Fodd bynnag, mae hanes, cymeriad ac etifeddiaeth Penrhyn yn gymhleth ac yn amlochrog, gan gynnwys themâu a chyfnodau arwyddocâol, dadleuol a chynnen. Y nodweddion hyn sy’n rhoi gwerth treftadaeth ac ymchwil nodedig i archif y Penrhyn, fel casgliad o arwyddocâd lleol, cenedlaethol a byd-eang, gan gynnwys:

- Cofnodion sy’n manylu ar ddatblygiad cynnar ystad dir yng ngogledd Cymru y tu hwnt i gyfyngiadau traddodiadol y system frodorol o ddaliadaeth ac etifeddiaeth (a elwir yn cyfran), gan gynnwys enghreifftiau niferus o drawsgludiad yn tir prid, grantiau o dir yn gysylltiedig â theyrngarwch y teulu yn ystod cyfnod Gwrthryfel Glyndŵr, a phapurau yn tystio i ymddangosiad y teulu Gruffydd, un o'r teuluoedd bonedd mwyaf pwerus yng ngogledd Cymru erbyn y bymthegfed ganrif.
- Cofnodion yn ymwneud â chysylltiadau’r ystâd â chaethwasiaeth ar draws yr Iwerydd a'i tir a gweithrediad yn Jamaica o tua 1660 hyd c.1940, gan gynnwys papurau yn manylu ar ddatblygiad a rheolaeth eu planhigfeydd siwgr a’u rôl yn y fasnach gaethweision.
- Cofnodion yn ymwneud â Chwarel Penrhyn ym Methesda, a ddatblygodd i fod yn un o'r rhai mwyaf yn y byd, gan gyflogi 3,000 o ddynion yn ei hanterth, allforio llechi ar raddfa fyd-eang a chael dylanwad dwfn ar gymeriad y gymdeithas ranbarthol; gan gynnwys cofnodion sydd o bwys i hanes llafur, hawliau gweithwyr ac undebaeth lafur, yn arbennig Streic Fawr 1900–03 (yr anghydfod diwydiannol hiraf yn hanes Prydain hyd heddiw).
- Cofnodion yn manylu ar un o'r rhaglenni mwyaf uchelgeisiol o 'wella' ystadau ym Mhrydain, a oruchwyliwyd gan yr amryddawn Benjamin a James Wyatt, a wasanaethodd fel prif stiward yr ystâd rhwng 1786 a 1859. Roedd y buddsoddiad sylweddol yn yr ystâd yn canolbwyntio'n bennaf ar seilwaith i gynnal y diwydiant llechi, ond hefyd yn ymestyn i amgead (dadleuol) gwastraff mynydd, adeiladu ffyrdd, cynhyrchiant amaethyddol gwell, coedwigaeth, tai a datblygu amwynderau lleol megis ysgolion, gwestai ac eglwysi.
- Cofnodion yn ymwneud â dadleuon gwleidyddol, crefyddol a chymdeithasol yng Nghymru ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan dargedwyd yr Arglwydd Penrhyn – a nodweddid fel landlord Seisnig, Anglicanaidd, Torïaidd – gan fudiad radical-anghydffurfiol Cymreig pwerus a oedd yn ceisio dymchwel system draddodiadol cymdeithas a gwleidyddiaeth Cymru dan lywyddiaeth y bonedd.
Heddiw mae'r casgliad yn cael ei gadw ar gyfer y genedl gan Brifysgol Bangor. Fe’i hystyrir yn un o asedau treftadaeth ddiwylliannol pwysicaf y Brifysgol: yn adnodd ymchwil unigryw ar gyfer staff academaidd a myfyrwyr, ac yn alluogwr strategol sy’n cyfrannu at frand deallusol byd-eang a statws y Brifysgol fel canolbwynt diwylliannol ar gyfer y rhanbarth.
I gael mynediad i Gatalog yr Archif ewch i:
Papurau Jamaica a Chaethwasiaeth Drawsatlantig
Yn 2018, roedd Prifysgol Bangor yn falch iawn o groesawu