Ym mis Ebrill 2022 ymunodd Prifysgol Bangor 芒 Siarter Cydraddoldeb Hil Advance HE. Mae'r REC yn darparu fframwaith i helpu prifysgolion i nodi rhwystrau i gynrychiolaeth, cynnydd a llwyddiant i staff a myfyrwyr ethnig lleiafrifol. Mae'n cynnwys staff proffesiynol a chymorth, staff academaidd, cynrychiolaeth myfyrwyr, cynnydd a dyfarnu yn ogystal ag amrywiaeth y cwricwlwm.
Mae ein taith tuag at ddod yn Brifysgol wrth-hiliol yn gofyn am ymrwymiad parhaus ac adnoddau ymroddedig. I'r perwyl hwn, fe wnaethom greu swydd Swyddog Cydraddoldeb parhaol ychwanegol i arwain y gwaith hwn a phenodwyd Danielle Williams i'r r么l hon ym mis Hydref 2022.
Mae'r Brifysgol bellach wedi datblygu Cynllun Gweithredu Hiliol a bydd yn cyflwyno cais ar gyfer Gwobr Efydd REC ym mis Tachwedd 2024.
Fel rhan o'n gwaith REC ers 2022, mae'r Brifysgol wedi:
- Sefydlu T卯m Hunanasesu REC (REC SAT) gyda chynrychiolwyr staff a myfyrwyr amry