Llongyfarchiadau ar eich cynnig o le ym Mhrifysgol Bangor
Croeso i'n hyb deiliad cynigion Fferylliaeth a Ffarmacoleg.
Rydyn ni wedi creu'r tudalennau hyn i rannu gwybodaeth fanylach am yr hyn sy'n gwneud astudio ym Mangor yn unigryw ac i'ch helpu chi i wneud y penderfyniad pwysig o ble rydych chi'n mynd i astudio.
Os ydych wedi derbyn eich cynnig rydym yn gyffrous iawn i obeithio eich croesawu i Fangor ym mis Medi a dymuno pob lwc i chi gydag unrhyw arholiadau a gwaith cwrs yr ydych yn astudio ar eu cyfer.
Os ydych chi'n dal i ystyried eich opsiynau gwnewch yn si诺r eich bod chi'n edrych ar ein holl gynnwys ar y dudalen hon i'ch helpu chi i benderfynu ai Bangor yw'r lle i chi ac mae croeso i chi gysylltu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.
Oeddech chi'n gwybod?
O ddarganfyddiadau cyffuriau newydd i ofal cleifion, byddwch yn astudio beth sy'n gyfredol ac yn cael effaith.
Bydd eu cefnogaeth a鈥檜 mentoriaeth yn eich helpu i lywio eich astudiaethau a pharatoi ar gyfer eich gyrfa mewn fferylliaeth, ffarmacoleg neu feysydd eraill.
Mae'r amgylchedd hwn yn helpu i ddod 芒 dysgu yn yr ystafell ddosbarth yn fyw ac yn datblygu sgiliau y gallwch eu defnyddio yn eich gyrfa yn y dyfodol.
Neges gan yr Athro Dyfrig Hughes
Dyfrig Hughes ydw i, dwi'n athro yma yn Prifysgol Bangor a dwi'n dysgu ar y cyrsiau Fferylliaeth a Ffarmacoleg.
Dwi'n hynod falch eich bod wedi cael cynnig, lle yma i astudio ym Mhrifysgol Bangor a dwi'n fawr obeithio y byddwch yn derbyn y cynnig, a pob llongyfarchiadau mawr i chi a pob dymuniadau da ar eich arholiadau i ddod.
Cwrdd 芒'r Darlithwyr
Os dewiswch astudio gyda ni ym Mangor byddwch yn cael eich dysgu gan bobl sy'n angerddol am eu pynciau. Isod gallwch ddod i adnabod rhai o'r darlithwyr allweddol a fydd yn rhan o flynyddoedd cyntaf eich gradd.