Opsiynau Talu
Gellir talu’n llawn cyn cofrestru neu wrth gofrestru.
Gall myfyrwyr dalu drwy dri randaliad. Dylech dalu’r rhandaliad cyntaf 0 50% ar y diwrnod olaf y caniateir cofrestru, neu cyn hynny, ac mae’r ail randaliad o 25% yn ddyledus cyn 31/01/2025 a’r rhandaliad olaf o 25% yn daladwy ar 30/04/2025 neu cyn hynny.
Ar gyfer mynediad i'r Cwrs Cyn-Sesiwn, rhaid talu ffioedd yn llawn, naill ai ymlaen llaw neu wrth gofrestru ar raglen ELCOS. Nid oes cynllun rhandaliadau ar gael.
Mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i godi llog misol o 1% ar unrhyw daliad hwyr ar ôl y dyddiad cofrestru olaf. Gellir codi llog ar daliadau hwyr yn achos rhandaliadau hefyd.
Gellir talu ffioedd llety’n llawn hefyd (gweler: /international/future/payment) neu drwy randaliadau gan ddefnyddio cerdyn credyd/debyd cyson drwy’r broses gofrestru ar-lein.
Ôl-raddedig: 12 rhandaliad – Misol Hydref 2024 - Medi 2025 - 11eg o mis
Ôl-raddedig: 3 rhandaliad - Hydref, Ionawr ac Ebrill - 10/10/24, 09/01/25 ac 24/04/25
Ôl-raddedig: 7 rhandaliad - Hydref 2024 - Ebrill 2025 - diwrnod olaf y mis
Israddedig: 3 rhandaliad - Hydref, Ionawr ac Ebrill - 10/10/24, 16/01/25 ac 08/05/25
Israddedig: 7 rhandaliad - Hydref 2024 - Ebrill 2025 - diwrnod olaf y mis
Sut i Dalu
Mae system rheoli talu ar-lein (Talu i Astudio) ar gael ym Mhrifysgol Bangor i hwyluso’r broses o dalu gwahanol ffioedd, yn cynnwys blaendaliadau, ffioedd dysgu, ffioedd cyrsiau iaith Saesneg a ffioedd llety yn eich arian lleol ac yn eich banc lleol. Gall ein darparwyr neu ein hasiantau swyddogol hefyd dalu dros grwpiau.
Cewch ragor o wybodaeth yn:/international/future/payment