Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae'r cwrs hwn hefyd yn cael ei chynnig drwy Gyfrwng Saesneg.
Bydd AC llwyddiannus yn deall pam fod Hanes yn hanfodol i'r unigolyn ac yn sylfaenol i ddeall y gymuned y mae unigolion yn perthyn iddi. Felly, mae hanes fel pwnc yn chwarae rhan hanfodol wrth ddatblygu gallu pobl ifanc i drin a thrafod materion a ffurfio eu hunaniaeth.
Drwy gydol y cwrs, bydd AC yn cynnwys disgyblion mewn trafodaethau beirniadol am feysydd allweddol a nodir gan orchmynion cyfredol cwricwlwm Cymru; er enghraifft, profiad cymdeithasol unigryw cymunedau Cymru ac adfywiad modern ymwybyddiaeth genedlaethol Cymru. Bydd AC hefyd yn gwybod sut y gall hanes ddatblygu dealltwriaeth o fewn y Dyniaethau a dod yn gyfarwydd 芒'r amrywiaeth o destunau arbenigol y pwnc sydd ar gael yn TGAU ac ar Lefel A.
Bwriad y rhaglen TAR Uwchradd yw rhoi dealltwriaeth ddofn i chi o'r ffordd mae plant a phobl ifanc yn dysgu a rhoi i chi'r sgiliau a'r wybodaeth y bydd arnoch eu hangen i ddatblygu'n athro creadigol ac arloesol. Cewch gyfle i ddysgu am ddatblygiad plant trwy'r sector uwchradd a chael cefnogaeth i ddod yn athro rhagorol/athrawes ragorol. Mae'r cwrs TAR gyda SAC hwn* yn cael ei gydnabod ar draws Cymru a Lloegr ac mae'n aml yn drosglwyddadwy* i fynd i'r proffesiwn dysgu mewn gwledydd eraill.
*Dylai rhai sydd eisiau dysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio bod Statws Athro Cymwysedig yn cael ei gydnabod gan gorff proffesiynol athrawon y wlad dan sylw ac y gellir ei drosglwyddo yno.
Bydd ysgolion ymroddedig gyda mentoriaid wedi eu hyfforddi'n dda yn cefnogi cynnydd athrawon cysylltiol tuag at ennill Statws Athro Cymwysedig yn unol 芒'r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth yng Nghymru.
Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn y brifysgol a staff yn yr ysgolion yn rhoi cefnogaeth ragorol a sesiynau ysgogol, a bydd y cymhwyster a geir yn galluogi myfyrwyr i ddysgu yng Nghymru a thu hwnt iddi.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi鈥檔 ei astudio ar y cwrs yma?
Bydd AC yn deall sut i gynllunio gweithgareddau dysgu priodol er mwyn meithrin ymholi hanesyddol ystyrlon a dilys gan ddefnyddio deunydd o ffynonellau gwreiddiol, data rhifiadol ac ystadegol, ac ysgolheictod hanesyddol. Byddant wedi archwilio addysgeg sylfaenol hanes, gan gynnwys adrodd stori, chwarae rhan, a threfnu gwybodaeth yn naratifau mawr, a chydberthynas hyn 芒 safbwyntiau traddodiadol o hanes fel pwnc a chorff gwybodaeth a dderbynnir.
Bydd AC yn deall swyddogaeth deialog a gofyn cwestiynau wrth ddatblygu arferion disgyblion o ran meddwl am hanes a sut i hyrwyddo rhyngweithio rhwng cysyniad a chynnwys i greu dealltwriaeth hanesyddol a llythrennedd. Byddant yn deall sut mae hanes wedi'i leoli o fewn y Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru a'r Meysydd Dysgu newydd, a byddant yn dysgu hanes gan ddefnyddio TGCh ac yn cyflwyno agweddau perthnasol o'r fframweithiau Llythrennedd a Chymhwysedd Digidol o fewn y pwnc. Bydd AC Hanes yn ymgorffori'r pedwar diben yn eu haddysgu, gan sicrhau bod dysgwyr yn deall swyddogaeth hanes yn eu hardal leol a'r byd ehangach.
Ariannu
Cymhellion Hyfforddi i Athrawon
Gallai graddedigion sydd 芒 graddau penodol fod yn gymwys am gymhellion o hyd at 拢20,000 os ydynt am i hyfforddi i fod yn athro yng Nghymru.
Y pynciau blaenoriaeth yw:
- Ffiseg
- Cemeg
- Mathemateg
- Cymraeg
- Cyfrifiadu