Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae'r cwrs hwn hefyd yn cael ei chynnig drwy Gyfrwng Saesneg.
Bydd AC yn archwilio a dadansoddi egwyddorion y cwricwlwm gwyddoniaeth newydd gan eu galluogi i ddod yn ymarferwyr effeithiol sydd 芒 dealltwriaeth gadarn o addysgeg yn seiliedig ar theori. Byddant yn cael cyfleoedd i fyfyrio'n feirniadol ar oblygiadau adroddiadau diweddar i safonau addysg wyddoniaeth yng Nghymru a deall pwysigrwydd ymarfer ar sail tystiolaeth mewn gwyddoniaeth.
Bydd AC yn astudio ac yn gwerthuso'n feirniadol ystod eang o addysgeg gwyddoniaeth mewn Bioleg, Cemeg a Ffiseg, gan eu galluogi i ddarparu profiadau dysgu effeithiol mewn ystod o gyd-destunau addysgol. Bydd yr AC yn cael y wybodaeth a'r sgiliau i ddatblygu gallu dysgwyr i feddwl trwy ddysgu yn seiliedig ar broblemau ac addysgu deialogaidd, ac i ddeall mater allweddol asesu dealltwriaeth dysgwyr o fodelau cysyniadol a fframweithiau eraill wrth sicrhau dilyniant effeithiol mewn dysgu.
Bwriad y rhaglen TAR Uwchradd yw rhoi dealltwriaeth ddofn i chi o'r ffordd mae plant a phobl ifanc yn dysgu a rhoi i chi'r sgiliau a'r wybodaeth y bydd arnoch eu hangen i ddatblygu'n athro creadigol ac arloesol. Cewch gyfle i ddysgu am ddatblygiad plant trwy'r sector uwchradd a chael cefnogaeth i ddod yn athro rhagorol/athrawes ragorol. Mae'r cwrs TAR gyda SAC hwn* yn cael ei gydnabod ar draws Cymru a Lloegr ac mae'n aml yn drosglwyddadwy* i fynd i'r proffesiwn dysgu mewn gwledydd eraill.
*Dylai rhai sydd eisiau dysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio bod Statws Athro Cymwysedig yn cael ei gydnabod gan gorff proffesiynol athrawon y wlad dan sylw ac y gellir ei drosglwyddo yno.
Bydd ysgolion ymroddedig gyda mentoriaid wedi eu hyfforddi'n dda yn cefnogi cynnydd athrawon cysylltiol tuag at ennill Statws Athro Cymwysedig yn unol 芒'r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth yng Nghymru.
Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn y brifysgol a staff yn yr ysgolion yn rhoi cefnogaeth ragorol a sesiynau ysgogol, a bydd y cymhwyster a geir yn galluogi myfyrwyr i ddysgu yng Nghymru a thu hwnt iddi.
Cyfunwch y pwnc hwn gyda Gweithgareddau Awyr Agored
Mae Bangor yn lle gwych ar gyfer unrhyw un sydd 芒 diddordeb mewn gweithgareddau awyr agored. Mae ein lleoliad, ynghyd 芒鈥檔 cysylltiadau 芒 darparwyr addysg awyr agored, yn rhoi cyfle arbennig i gyfuno鈥檙 pwnc hwn gyda chwaraeon awyr agored yn ystod eich hyfforddiant. Os yw hyn o ddiddordeb i chi, yna gwnewch gais am: TAR Uwchradd - Ffiseg (Cyfrwng Cymraeg) 3F5G.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi鈥檔 ei astudio ar y cwrs yma?
Bydd yr AC yn cael eu hyfforddi i ddod yn rheolwyr dysgu effeithiol yn y labordy, i ddeall swyddogaeth allweddol gweithgareddau ymarferol ac ymchwiliol mewn Gwyddoniaeth ac i allu rheoli'r gweithgareddau yn ddiogel. Bydd yr AC yn dadansoddi'r damcaniaethau sy'n sail i ystod o arferion asesu ffurfiannol a chrynodol a byddant yn gallu eu defnyddio'n effeithiol i hwyluso cynnydd dysgwyr ac i roi gwybod i rieni, cydweithwyr ac asiantaethau allanol. Bydd yr AC Gwyddoniaeth yn gallu deall eu swyddogaeth wrth gyfrannu at gwricwlwm cynhwysol, eang a chytbwys, y cysylltiadau rhwng Gwyddoniaeth a Meysydd Dysgu eraill (yn enwedig Mathemateg a Thechnoleg), datblygiad sgiliau Llythrennedd, Rhifedd a TG (DC) dysgwyr a'u gallu i ddefnyddio'r Gymraeg mewn Gwyddoniaeth.
Bydd yr AC hefyd yn deall pwysigrwydd cyflwyno cwricwlwm Gwyddoniaeth sy'n berthnasol i ddiddordeb a buddiannau'r holl ddisgyblion, ac wedi'i wreiddio yng nghyd-destun diwylliannol, economaidd a hanesyddol Cymru. Bydd yr AC yn dod i werthfawrogi cyfraniad allweddol Gwyddoniaeth o ran sicrhau iechyd a lles dysgwyr yn ogystal 芒'u galluogi i ddod yn ddinasyddion moesegol a gwybodus Cymru.