Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Ar 么l cwblhau'r TAR yn llwyddiannus, bydd AC Dylunio a Thechnoleg wedi datblygu athroniaeth addysgu a dysgu drwyadl yn y pwnc yn ogystal 芒 dealltwriaeth o'i swyddogaeth ehangach a'i botensial i gyfrannu tuag at bedwar diben y cwricwlwm newydd.
Bydd AC llwyddiannus yn deall bod Dylunio a Thechnoleg yn bwnc trylwyr ac ymarferol. Yn greiddiol iddo, bydd egwyddorion sy'n canolbwyntio ar bobl a chynllun ailadroddol systematig yn galluogi dysgwyr i greu cynhyrchion a / neu wasanaethau sy'n datrys problemau real sy'n berthnasol, ac yn arwain dysgwyr i ystyried anghenion a gwerthoedd pobl eraill, yn ogystal 芒'u rhai eu hunain.
Bydd AC yn deall mai Dylunio a Thechnoleg fydd defnyddio gwybodaeth bynciol trwy bwyso ar egwyddorion a darganfyddiadau o bynciau eraill megis mathemateg, peirianneg, gwyddoniaeth a chelf. Bydd AC yn mabwysiadu dull dysgu trwy brofiad, gan alluogi dysgwyr i ddysgu am Ddylunio a Thechnoleg a defnyddio gwybodaeth ddamcaniaethol mewn cyd-destun byd go iawn drwy sialensiau cyd-destunol.
Bydd AC llwyddiannus yn gallu rheoli'r cwricwlwm DaT yn fedrus, byddant yn ymarferwyr creadigol eu hunain, a chyda'r sgiliau i ddatblygu creadigrwydd eraill.
Bwriad y rhaglen TAR Uwchradd yw rhoi dealltwriaeth ddofn i chi o'r ffordd mae plant a phobl ifanc yn dysgu a rhoi i chi'r sgiliau a'r wybodaeth y bydd arnoch eu hangen i ddatblygu'n athro creadigol ac arloesol. Cewch gyfle i ddysgu am ddatblygiad plant trwy'r sector uwchradd a chael cefnogaeth i ddod yn athro rhagorol/athrawes ragorol. Mae'r cwrs TAR gyda SAC hwn* yn cael ei gydnabod ar draws Cymru a Lloegr ac mae'n aml yn drosglwyddadwy* i fynd i'r proffesiwn dysgu mewn gwledydd eraill.
*Dylai rhai sydd eisiau dysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio bod Statws Athro Cymwysedig yn cael ei gydnabod gan gorff proffesiynol athrawon y wlad dan sylw ac y gellir ei drosglwyddo yno.
Bydd ysgolion ymroddedig gyda mentoriaid wedi eu hyfforddi'n dda yn cefnogi cynnydd athrawon cysylltiol tuag at ennill Statws Athro Cymwysedig yn unol 芒'r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth yng Nghymru.
Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn y brifysgol a staff yn yr ysgolion yn rhoi cefnogaeth ragorol a sesiynau ysgogol, a bydd y cymhwyster a geir yn galluogi myfyrwyr i ddysgu yng Nghymru a thu hwnt iddi.
Cyfunwch y pwnc hwn gyda Gweithgareddau Awyr Agored
Mae Bangor yn lle gwych ar gyfer unrhyw un sydd 芒 diddordeb mewn gweithgareddau awyr agored. Mae ein lleoliad, ynghyd 芒鈥檔 cysylltiadau 芒 darparwyr addysg awyr agored, yn rhoi cyfle arbennig i gyfuno鈥檙 pwnc hwn gyda chwaraeon awyr agored yn ystod eich hyfforddiant. Os yw hyn o ddiddordeb i chi, yna gwnewch gais am: TAR Uwchradd - Dylunio a Thechnoleg (Cyfrwng Saesneg) 3F54.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi鈥檔 ei astudio ar y cwrs yma?
Bydd AC yn gallu datblygu sgiliau eu dysgwyr i wneud y canlynol:
- defnyddio meddwl cydgyfeiriol a dargyfeiriol wrth arsylwi, ymchwilio, ymholi damcaniaethol, delweddu a/neu ddatrys problemau , a chynhyrchu safbwyntiau beirniadol creadigol hyddysg;
- bod yn feddylwyr beirniadol sy'n defnyddio tystiolaeth i werthuso, cyfuno a ffurfio barn am effaith eu dewisiadau fel dylunwyr, gwneuthurwyr a defnyddwyr ar yr amgylchedd lleol a'r amgylchedd ehangach;
- dangos empathi, gwerthuso a mynegi syniadau ac emosiynau trwy gyfryngau a deilliannau gwahanol.
Bydd gan AC hyder yn eu sgiliau gweithgynhyrchu eu hunain sy'n galluogi dysgwyr i ddeall pwysi