Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae'r cwrs hwn hefyd yn cael ei chynnig drwy Gyfrwng y Gymraeg.
Ar 么l cwblhau'r TAR yn llwyddiannus, bydd gan AC Addysg Gorfforol (AG) ddealltwriaeth sicr o addysgeg Addysg Gorfforol a sut mae'r pwnc yn cyfrannu at hyrwyddo ymgysylltiad gydol oes 芒 gweithgaredd corfforol sy'n gwella iechyd.
Anogir AC Addysg Gorfforol i weld eu hunain fel dysgwyr gydol oes a ysgogir i ymestyn eu dealltwriaeth o gyd-destun a diwylliant dysgu AG yng Nghymru. Caiff eu haddysgu ei oleuo gan y damcaniaethau'n ymwneud 芒 dysgu AG gan ddatblygu eu gallu i ymwneud yn feirniadol ag ymchwil a hyrwyddo eu haddysgu eu hunain.
Bwriad y rhaglen TAR Uwchradd yw rhoi dealltwriaeth ddofn i chi o'r ffordd mae plant a phobl ifanc yn dysgu a rhoi i chi'r sgiliau a'r wybodaeth y bydd arnoch eu hangen i ddatblygu'n athro creadigol ac arloesol. Cewch gyfle i ddysgu am ddatblygiad plant trwy'r sector uwchradd a chael cefnogaeth i ddod yn athro rhagorol/athrawes ragorol. Mae'r cwrs TAR gyda SAC hwn* yn cael ei gydnabod ar draws Cymru a Lloegr ac mae'n aml yn drosglwyddadwy* i fynd i'r proffesiwn dysgu mewn gwledydd eraill.
*Dylai rhai sydd eisiau dysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio bod Statws Athro Cymwysedig yn cael ei gydnabod gan gorff proffesiynol athrawon y wlad dan sylw ac y gellir ei drosglwyddo yno.
Bydd ysgolion ymroddedig gyda mentoriaid wedi eu hyfforddi'n dda yn cefnogi cynnydd athrawon cysylltiol tuag at ennill Statws Athro Cymwysedig yn unol 芒'r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth yng Nghymru.
Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn y brifysgol a staff yn yr ysgolion yn rhoi cefnogaeth ragorol a sesiynau ysgogol, a bydd y cymhwyster a geir yn galluogi myfyrwyr i ddysgu yng Nghymru a thu hwnt iddi.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi鈥檔 ei astudio ar y cwrs yma?
Bydd AC yn ymgorffori pob un o'r pedwar diben yn eu haddysgu, ond yn benodol byddant yn gwybod sut i sicrhau bod dysgwyr yn dod yn unigolion iach a hyderus. Byddant yn deall y berthynas uniongyrchol rhwng profiadau ymarfer cadarnhaol ac iechyd a lles plant a phobl ifanc; yn ogystal, byddant yn hyrwyddo agweddau positif tuag at gymryd rhan gydol oes mewn gweithgareddau corfforol sy'n gwella iechyd.
Bydd AC yn datblygu eu gwybodaeth o gynnwys y pwnc a'u dealltwriaeth o ddysgu ac addysgu mewn Addysg Gorfforol. Bydd eu hastudiaeth o wybodaeth bynciol yn cwmpasu ystod o weithgareddau corfforol, addysgu manylebau ar lefel arholiadau, a hefyd gynnwys rhifedd, llythrennedd a chymhwysedd digidol mewn AG.
Bydd AC llwyddiannus yn gallu gwneud y canlynol:
- nodi a gwerthuso cysyniadau a materion addysgol sy'n ymwneud ag iechyd, gweithgaredd corfforol ac AG;
- adnabod anghenion dysgu disgyblion mewn gweithgaredd iechyd a chorfforol a dehongli'r anghenion dysgu hyn er mwyn cynllunio, addysgu, asesu a gwerthuso gwersi a chynlluniau gwaith;
- dangos gwybodaeth gadarn o gynnwys pwnc a gwybodaeth cynnwys pedagogaidd mewn iechyd, gweithgaredd corfforol ac AG;
- dangos dealltwriaeth gadarn o ofynion statudol y Cwricwlwm newydd yng Nghymru.
Gofynion Mynediad
- O leiaf 2:2 mewn gradd anrhydedd neu gyfwerth mewn maes sy'n gysylltiedig 芒 pwnc astudio.
- Gradd C/Gradd 4 mewn arholiad TGAU yn unrhyw un o'r canlynol: Iaith Saesneg, Llenyddiaeth Saesneg, Gymraeg Iaith Gyntaf, Llenyddiaeth Gymraeg.
- Rhaid cael gradd C/gradd 4 yn yr Arholiad TGAU mewn Mathemateg neu Mathemateg-Rhifedd hefyd.
- Parodrwydd ac agwedd gadarnhaol tuag at wella eu defnydd personol o'r iaith Gymraeg.
- Mae'n of