Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae'r cwrs hwn hefyd yn cael ei chynnig drwy Gyfrwng Saesneg.
Bwriad y rhaglen TAR Cynradd yw rhoi dealltwriaeth ddofn i chi o'r ffordd mae plant yn dysgu a rhoi i chi'r sgiliau a'r wybodaeth y bydd arnoch eu hangen i ddatblygu鈥檔 athro creadigol ac arloesol. Cewch gyfle i ddysgu am ddatblygiad plant drwy'r Gam Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2 a chael cefnogaeth i ddod yn athro rhagorol/athrawes ragorol. Mae'r cwrs TAR gyda SAC hwn* yn cael ei gydnabod ar draws Cymru a Lloegr ac mae'n aml yn drosglwyddadwy* ymhellach i ffwrdd i fynd i'r proffesiwn dysgu.
*Dylai rhai sydd eisiau dysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio bod Statws Athro Cymwysedig yn cael ei gydnabod gan Gorff Proffesiynol Athrawon y wlad dan sylw ac y gellir ei drosglwyddo yno.
Bydd ysgolion ymroddedig gyda mentoriaid wedi'u hyfforddi'n dda yn cefnogi cynnydd Athrawon Cysylltiol tuag at ennill Statws Athro Cymwysedig yn unol 芒'r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth yng Nghymru.
Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn y brifysgol a staff yn yr ysgolion yn rhoi cefnogaeth ragorol a sesiynau ysgogol, a bydd y cymhwyster a geir yn galluogi myfyrwyr i ddysgu o fewn Cymru a thu hwnt iddi.
Cyfleoedd Ymchwil
Rydym yn gweithio gydag ysgolion ar draws Gogledd Cymru sy'n rhoi cyfleoedd i chi allu fod yn rhan o brosiectau ymchwil.
Profiad Myfyrwyr - Stori Guto
Fy enw i yw Guto Wyn Hughes. Rwy'n dod o Y Groeslon pentref bach ger Caernarfon. Ar y funud dwi'n astudio TAR Cynradd Cymraeg.
Dwi wedi dewis fod yn athro oherwydd dwi wedi cael profiadau ar 么l chweched i weithio fel cymhorthydd, ac wedi cael blas y hynny wedyn nesi fynd i'r brifysgol a dim neud cwrs BA.
Ar 么l cwblhau fy nghwrs 3 mlynedd mewn chwaraeon, esi fynd ymlaen wedyn i weithio, a di penderfynu dod yn 么l i neud y cwrs TAR ym Mangor er mwyn cymhwyso fel athro.
Mae llawer o gyfleoedd gwahanol er mwyn gallu datblygu yn bersonol mae'r profiad o ddod i adnabod athrawon newydd hefyd yn cymhwyso ar y cwrs wedi bod yn brofiad gwych.
Be dwi wedi mwynhau gora o'r cwrs ydi ystod eang o brofiadau mewn ysgolion gwahanol da ni wedi cael dros y 9 mis diwethaf ysgolion sydd yn arbenigo mewn meysydd dysgu a phrofiad sydd wedi bod yn hollol wych a chael syniadau gan ysgolion eraill. Hefyd y 3 lleoliad gwahanol sydd wedi digwydd o fewn y cwrs.
Wedi bod mewn 3 ysgol wahanol yn dysgu gymaint o oedrannau gwahanol o blant o wahanol ardaloedd, cefndiroedd, cymunedau mae wedi bod yn hollol wych.
Yr adborth y buaswn yn rhoi ydi jest cer amdani mae wedi bod yn flwyddyn hynod werthfawr, o ran yr wythnos gyntaf, yr wythnos croesawu, hyd yma rydych yn dod i nabod gymaint o bobl ella efo'r un fath o werthoedd a chi. Hefyd yr un bobl sydd eisiau neud yr un peth a chyflawni'r un peth o fewn amgylchedd ysgol.
Dwi wedi bod digon ffodus i gael profiadau mewn ysgolion sydd yn ymfalch茂o o ddysgu trwy'r cyfrwng y Gymraeg, ac yn cymryd balchder mewn Cymreictod. Dwi wedi bod wrth fy modd yn cael creu'r portffolio Cymraeg yn y Brifysgol ac wedyn defnyddio'r sgiliau da ni'n defnyddio yn y Brifysgol ar lawr y dosbarth, mae wedi bod yn brofiad gwych.