Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i gymhwyso dealltwriaeth seicolegol i anawsterau sy'n gysylltiedig 芒 phroblemau iechyd meddwl neu gorfforol. Cewch eich cyflwyno i'r theori a'r wybodaeth sy'n sail i ymarfer effeithiol ym maes seicoleg glinigol ac iechyd, byddwch yn ystyried hyn mewn perthynas ag amrywiaeth o gyflyrau, yn ennill dealltwriaeth o'r amrywiaeth o ddulliau ymchwil a ddefnyddir gan seicolegwyr clinigol, ac yn gwneud eich project ymchwil eich hun mewn maes perthnasol.
Bydd cysylltiadau agos yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol a gwasanaethau lleol y GIG yn rhoi cyfle i chi ymchwilio i seicoleg glinigol gydweithredol. Mae ymchwilwyr yn yr ysgol yn defnyddio amrywiaeth eang o'r technegau diweddaraf i ddeall cysylltiadau ymddygiad yr ymennydd, gan gynnwys mapio gweithredoedd swyddogaethol yn yr ymennydd gyda photensialau cysylltiedig 芒 digwyddiadau (ERP), ysgogiad magnetig trawsgreuanol (TMS) a delweddu cyseiniant magnetig swyddogaethol (fMRI). Mae hyn yn rhoi cyfle i chi ddefnyddio'r offer a'r technegau diweddaraf.
Sut y gall y cwrs eich helpu i ddatblygu'ch gyrfa
Bydd y cwrs hwn o ddiddordeb arbennig i:
- raddedigion mewn seicoleg sy'n anelu at yrfa mewn seicoleg glinigol ac nad oes ganddynt brofiad gwaith perthnasol eto. Mae cwblhau'r MSc yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer cael cyflogaeth fel seicolegydd cynorthwyol a chael mynediad i hyfforddiant clinigol yn ddiweddarach.
- graddedigion mewn seicoleg sy'n anelu at yrfa mewn seicoleg glinigol ac sydd eisoes wedi cael profiad gwaith perthnasol. Mae cwblhau'r cwrs MSc yn darparu tystiolaeth o sgiliau academaidd ac ymchwil, sy'n werthfawr wrth wneud ceisiadau am hyfforddiant clinigol.
- graddedigion mewn seicoleg neu ddisgyblaethau sy'n perthyn yn agos ac sy'n awyddus i wneud ymchwil ym maes seicoleg glinigol. Mae'r cwrs MSc yn darparu hyfforddiant ymchwil priodol i'r rhai sy'n dymuno symud ymlaen i PhD neu gyflogaeth mewn swydd ymchwil.
- gweithwyr iechyd proffesiynol cymwys gyda chefndir academaidd priodol sy'n dymuno ehangu eu dealltwriaeth o seicoleg glinigol. Mae hyfforddiant seicoleg glinigol yn y DU yn cynnwys cwblhau rhaglen hyfforddi tair blynedd sy'n arwain at ddoethuriaeth mewn seicoleg glinigol a chymhwysedd i wneud cais am statws seicolegydd clinigol siartredig. Ariennir yr hyfforddiant gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) ac mae bron pob hyfforddai yn mynd ymlaen i weithio yn y GIG ar 么l cymhwyso. Mae mynediad i'r rhaglenni hyn yn hynod gystadleuol a rhaid i ymgeiswyr feddu ar sgiliau academaidd ac ymchwil da yn ogystal 芒 phrofiad gwaith perthnasol, fel arfer dwy flynedd mewn swydd seicolegydd cynorthwyol amser llawn 芒 th芒l neu gyfwerth. Nod yr MSc Seicoleg Glinigol ac Iechyd yw rhoi proffil o wybodaeth academaidd a sgiliau ymchwil i fyfyrwyr a fydd, ynghyd 芒 phrofiad gwaith perthnasol, yn eu galluogi i wneud cais credadwy am hyfforddiant seicoleg glinigol, naill ai yn y DU neu yn rhywle arall. Mae'r Ysgol Seicoleg yn cynnig yr MSc Seicoleg Glinigol ac Iechyd a'r MSc Sylfeini Niwroseicoleg Glinigol; mae'r ddau gwrs yma yr un mor berthnasol fel rhagflaenydd i hyfforddiant seicoleg glinigol.
Mae hyfforddiant seicoleg glinigol yn y DU yn cynnwys cwblhau rhaglen hyfforddi tair blynedd sy'n arwa