Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Cymeradwywyd y cwrs hwn gan yr NMC. Mae MSc Nyrsio Iechyd Meddwl hefyd ar gael.
Mae'r MSc mewn Nyrsio Oedolion yn arwain at gymhwystra i gofrestru gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ac mae'n cynnig llwybr wedi ei gyllido dros ddwy flynedd i nyrsio ar gyfer graddedigion, gan ennill cymhwyster 么l-radd ar yr un pryd. Mae'r cymhwyster 么l-radd hwn wedi'i fwriadu ar gyfer graddedigion sy'n dymuno datblygu a chymhwyso'r wybodaeth a gawsant yn ystod eu cwrs gradd israddedig a dilyn gyrfa ym maes cyflwyno gwasanaethau gofal iechyd yn uniongyrchol. Amcan y cwrs hwn yw paratoi nyrsys cofrestredig sy'n gallu cynnig gofal tosturiol o ansawdd rhagorol, gwell arweinyddiaeth, rheolaeth ac sy'n meddu ar sgiliau rhyngbroffesiynol ac ymchwil, er mwyn dylanwadu ar ymarfer ac ysgogi newid.
Mae ein darpariaeth addysgu eithriadol yn seiliedig ar yr ymchwil ddiweddaraf i ymarfer (sy'n ffocws allweddol o weithgaredd ymchwil yr ysgol) ac mae wedi'i wreiddio mewn ymarfer clinigol modern. Bydd yr MSc Nyrsio Oedolion yn paratoi graddedigion yn arbennig o dda i ffynnu mewn amgylcheddau sy'n newid yn gyflym, gan ystyried sut y gall ymddygiad, diwylliant, ffactorau economaidd-gymdeithasol ac eraill, yn yr amgylchedd gofal a'i leoliad effeithio ar iechyd, salwch, canlyniadau iechyd a blaenoriaethau iechyd y cyhoedd.
Bydd myfyrwyr MSc yn graddio o'r rhaglen gyda鈥檙 cymhwystra i gofrestru gyda鈥檙 Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth fel nyrs oedolion, gyda'r wybodaeth, y sgiliau, y cymhwysedd a'r gwerthoedd angenrheidiol sy'n ofynnol i fodloni gofynion statudol angenrheidiol ar gyfer cofrestru gyda鈥檙 NMC.
Dim Angen Talu Ffioedd Dysgu
Os ystyrir eich bod yn fyfyriwr cartref o鈥檙 Deyrnas Unedig o ran ffioedd dysgu, a all ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar 么l graddio, gallech gael eich ffioedd dysgu wedi'u talu'n llawn drwy Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru a gwneud cais am gyfraniad bwrsariaeth o 拢1,000 tuag at gostau byw. Cewch hefyd wneud cais am y fwrsariaeth yn seiliedig ar brawf modd sy'n ddibynnol ar incwm yr aelwyd ac unrhyw gyllid arall ac mae meini prawf cymhwysedd ar gyfer cymorth gofal plant, lwfans dibynnydd a lwfans i rieni sy鈥檔 dysgu. Pe bai'n well gennych beidio 芒 gweithio yng Nghymru ar 么l i chi raddio gallwch wneud cais am gyllid benthyciad myfyriwr meistr ar gyfer eich ffioedd a grant cynhaliaeth is.
Mae nifer cyfyngedig o leoedd ar gael i fyfyrwyr rhyngwladol ar gyfer y cwrs hwn (Ffioedd dysgu hunan-ariannol rhyngwladol: 拢21,000 y flwyddyn*).
*Mae鈥檙 Ffioedd a ddangosir yn gywir mewn perthynas 芒鈥檙 flwyddyn mynediad a hysbysebwyd.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi鈥檔 ei astudio ar y cwrs yma?
Byddwch yn meithrin y wybodaeth, y sgiliau a'r ymddygiad angenrheidiol i fodloni gofynion statudol i gofrestru fel nyrs oedolion weithredol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth. Pan fyddwch yn graddio, bydd gennych ddealltwriaeth drylwyr o'r cymwyseddau, yr egwyddorion a'r prosesau sy'n sail i ddarparu gofal diogel ac effeithiol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a'r gallu i gymhwyso gwybodaeth ac egwyddorion i wahanol leoliadau gofal.
Bydd y cwrs hwn yn eich datblygu fel ymarferydd annibynnol, adfyfyriol sydd 芒'r rhinweddau a'r gwerthoedd sydd eu hangen i ddarparu gofal diogel ac effeithiol. Byddwch yn datblygu sgiliau arwain a rheoli y gellir eu datblygu ymhellach ar 么l cymhwyso, gan alluogi'r ymarferydd i ddatblygu ymarfer, hyrwyddo a chynnal newid, dirprwyo, goruchwylio a rheoli ei hun ac eraill, gan gyfrannu at gynllunio, dylunio, cyflwyno a gwella gwasanaethau yn y dyfodol.
Drwy gydol y rhaglen, mae lleoliadau ymarfer wedi'u cynllunio i ddarparu ystod o brofiad nyrsio oedolion. Bydd astudiaethau damcaniaethol gorfodol a lleoliadau clinigol mewn ysbytai ac铆wt a chymunedol yng ngogledd Cymru. Yn ystod lleoliadau byddwch yn aelod ychwanegol ac mae hyn yn eich galluogi i weithio ochr yn ochr 芒'ch mentor a chymryd rhan mewn darparu gofal nyrsio. Bydd cefnogaeth gan diwtor personol sy'n nyrs gofrestredig ac aelod academaidd o鈥檙 staff a goruchwyliaeth fentora