Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae'r rhaglen radd hon yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr ddilyn llwybr arbenigol CFA (Dadansoddwr Ariannol Siartredig) a chael y sgiliau i sefyll arholiad CFA Lefel 1 (i fyfyrwyr sy'n cael eu derbyn ym mis Medi a mis Ionawr).
Mae bod yn gyfarwydd 芒'r datblygiadau diweddaraf o ran gwerthuso risgiau, dadansoddi portffolios, peirianneg cynhyrchion synthetig, technegau modelu a dadansoddi ariannol a phrisio yn ofynion hanfodol i bawb sy'n ymwneud yn uniongyrchol 芒 gweithgarwch ariannol neu sy'n dymuno bod 芒 gwell dealltwriaeth o'r maes pwysig hwn o reoli busnes.
Mae'r rhaglen MBA mewn Cyllid ym Mangor yn cynnig cyfle unigryw i werthfawrogi achosion ac arwyddoc芒d datblygiadau cyfredol yn y sector ariannol a'r sector gorfforaethol, ac i astudio theori ac ymarfer uwch sy'n ymwneud 芒 marchnadoedd ariannol a rheolaeth ariannol busnesau.
Mae'r gradd yn canolbwyntio ar weithrediad marchnadoedd ariannol a rheolaeth strategol endidau ariannol. Byddwch yn meithrin dealltwriaeth a sgiliau ymarferol mewn ystod o bynciau'n ymwneud 芒 rheolaeth ariannol a strategol o fewn gwasanaethau a marchnadoedd ariannol. Dewch i werthfawrogi beth yw achosion ac arwyddoc芒d datblygiadau cyfredol yn y sector ariannol a'r sector gorfforaethol. Mae astudiaethau achos a materion cyfoes yn rhan amlwg o'r rhaglen.
Hyd y Cwrs
Blwyddyn yn llawn amser. Mae pob rhaglen yn derbyn myfyrwyr ym mis Ionawr a mis Medi. Mae fersiwn 10 mis o'r MSc/MBA Finance hefyd ar gael (dechrau ym mis Medi yn unig). Bydd myfyrwyr ar y fersiwn 10 mis yn astudio 5 modiwl yn yr Hydref a 5 modiwl yn y Gwanwyn.
Llwybr arbenigol CFA (Dadansoddwr Ariannol Siartredig)
Mae llawer o鈥檔 rhaglenni gradd yn rhoi'r cyfle i ddilyn llwybr arbenigol CFA (Dadansoddwr Ariannol Siartredig) a chael y sgiliau i sefyll arholiad CFA Lefel 1 (i fyfyrwyr sy'n cael eu derbyn ym mis Medi a mis Ionawr). Erbyn hyn, y CFA yw鈥檙 cymhwyster proffesiynol uchaf ei barch ym maes cyllid yn y byd i gyd.
Bydd myfyrwyr sy'n dilyn y llwybr hwn yn astudio modiwl newydd o'r enw Ymchwil Ariannol a Chyfres CFA yn ystod yr haf. Bydd myfyrwyr yn mynd i seminarau ymchwil ym mis Mehefin ac yna鈥檔 cael hyfforddiant arbenigol i鈥檞 paratoi at yr arholiad CFA Lefel 1 a ddarperir gan , sy'n ddarparwr addysg CFA cydnabyddedig ac achrededig. Bydd y dysgu鈥檔 cynnwys dau ddiwrnod o seminarau ymchwil ym mis Mehefin a phum bloc deuddydd o hyfforddiant, ynghyd 芒 dau floc ychwanegol o adolygu yn ystod mis Gorffennaf a mis Awst. Bydd asesiadau yn dilyn y seminarau a'r hyfforddiant CFA.
Ni chodir unrhyw ffioedd ychwanegol ar fyfyrwyr sy'n dilyn y llwybr hwn.
Ond bydd gofyn i fyfyrwyr gofrestru gyda鈥檙 CFA Institute a thalu er mwyn sefyll yr arholiad. Telir ffioedd cofrestru ac arholiad i'r .
Gallwch gofrestru ar y llwybr CFA