Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae'r cwrs hwn wedi ei achredu'n llawn gan Sefydliad y Bancwyr Siartredig. Mae hyn yn golygu y byddwch yn graddio gyda chymhwyster deuol: MSc/MA Bancio a Chyllid a Dynodiad Proffesiynol Banciwr Siartredig, sef y safon aur i fancwyr proffesiynol, a鈥檙 cymhwyster uchaf ym maes bancio. Rydym yn falch o fod yn rhan o gr诺p dethol o ysgolion busnes sy'n cynnig y cymhwyster deuol hwn.**
Yn y rhaglen radd hon bydd myfyrwyr yn cael hyfforddiant rheolaeth a busnes ar lefel uwch sy'n ymwneud 芒 bancio a chyllid. Mae hyn yn ymwneud 芒 deall materion bancio ymarferol yn ymwneud 芒 chwmn茂au bancio / ariannol yn cynnwys: rheolaeth ariannol a strategol banciau, datblygu'r sector bancio a'r sector ariannol, perfformiad banciau a chorfforaethau, technoleg ariannol, dadansoddi nodweddion systemau a marchnadoedd ariannol. Bydd hefyd yn datblygu ymwybyddiaeth myfyrwyr o'r datblygiadau strategol, rheolaethol a thechnolegol diweddaraf yn y diwydiant gwasanaethau ariannol**.**
Bydd y rhaglen hon yn arfogi'r myfyrwyr i gael gwaith a datblygu eu gyrfaoedd yn y sector ariannol trwy ddatblygu a gwella amrywiaeth o sgiliau deallusol a sgiliau astudio trosglwyddadwy, ynghyd 芒 gwella sgiliau dysgu gydol oes a datblygu personol er mwyn cyfrannu at gymdeithas.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs hwn?
- Mae'r cwrs hwn wedi ei achredu'n llawn gan Sefydliad y Bancwyr Siartredig
- Byddwch yn graddio gyda dyfarniad deuol: MSc Bancio a Dynodiad Proffesiynol Banciwr Siartredig
- Rydym yn rhan o gr诺p dethol o ysgolion busnes sy'n cynnig y cymhwyster deuol hwn.
Strwythur y Cwrs
Dechrau ym mis Ionawr: Ymgymerir 芒 modiwlau hyfforddedig yn y cyfnod rhwng mis Ionawr a mis Mehefin ac o fis Medi i fis Ionawr a byddant yn cynnwys 120 credyd. Mae'r traethawd hir neu broject cyfatebol yn werth 60 credyd ac ymgymerir ag ef yn ystod y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi.
Dechrau ym mis Medi: Ymgymerir 芒 modiwlau hyfforddedig yn y cyfnod rhwng mis Medi a mis Mehefin a byddant yn cynnwys 120 credyd. Mae'r traethawd hir neu broject cyfatebol yn werth 60 credyd ac ymgymerir 芒鈥檙 gwaith hwn yn ystod y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi鈥檔 ei astudio ar y cwrs yma?
Modiwlau gorfodol:
- Research Methods: Mae'r modiwl hwn yn datblygu gwybodaeth am ddulliau ymchwil canolradd ac uwch, ac yn darparu sylfaen mewn methodoleg ymchwil i'r rheini sydd eisiau dilyn graddau ymchwil yn y pen draw.
- Credit and Lending:** Mae'r modiwl hwn yn ystyried credyd a benthyca o safbwynt cymhwysol a phroffesiynol. Mae'r modiwl yn rhoi sylw i nifer o bynciau a materion, yn cynnwys gwerthuso ceisiadau am fenthyciad yn feirniadol, nodi a chadw at gyfyngiadau cyfreithiol a deall sut mae arfer sgiliau rheoli risg, fel y mae'n ofynnol i fanciwr proffesiynol modern ei wneud.
- International Banking: Mae'r modiwl hwn yn edrych ar wreiddiau bancio rhyngwladol, gweithgarwch banciau rhyngwladol, y marchnadoedd y maent yn rhan ohonynt, a'r ffynonellau risg.
- Bank Financial Management: Mae'r modiwl hwn yn addysgu'r myfyrwyr am hanfodion natur, cyd-destun strategol a swyddogaethau rheolaethol rheolaeth ariannol mewn banciau, a chwmn茂au eraill sy'n cynnig gwasanaethau ariannol.
- Financial Ethics & Regulation:** Mae'r modiwl hwn yn ystyried moeseg ariannol ac ymddygiad sefydliadau ac unigolion sy'n gweithio yn y diwydiant gwasanaethau ariannol o ran rheoleiddio busnes. Mae'n rhoi sylw i nifer o bryderon ynghylch ymarfer moesegol gwael yn y gwasanaethau ariannol, moeseg busnes a sut mae sicrhau arfer foesegol yn y maes ariannol.
- Financial Technology: