Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae hwn yn gwrs byr dysgu o bell, rhan-amser ar lefel 6, a gyflwynir ar-lein.
I bwy mae鈥檙 cwrs hwn yn addas?
Mae'r cwrs byr hwn yn addas ar gyfer nyrsys practis newydd a phrofiadol sydd wedi'u cofrestru 芒'r NMC, ac sy'n ceisio datblygu eu sgiliau a'u gwybodaeth mewn practis cyffredinol.
Pam astudio鈥檙 cwrs?
Bydd y modiwl hwn yn cefnogi鈥檙 dysgwr i:
- Datblygu sgiliau mewn dulliau canlyniadau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, cyfweld ysgogol a dull canlyniadau personol.
- Cymhwyso a dadansoddi'n feirniadol strategaethau hybu iechyd ac atal afiechyd priodol o fewn gofal cychwynnol (primary care).
- Gwerthuso'n feirniadol y feddyginiaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth a'i berthnasedd i bractis cyffredinol.
- Archwilio amrywiaeth o gyflwyniadau ac铆wt a hirdymor o fewn practis cyffredinol.
- Datblygu gwybodaeth am ystod o sgiliau clinigol priodol megis: gofal clust, sgrinio iechyd, iechyd teithio, imiwneiddio a monitro therapiwtig.
Mae'r modiwl yn gyfle gwych i unrhyw nyrs sy'n newydd i bractis cyffredinol. Nod y modiwl yw gwella datblygiad sgiliau sylfaenol sy'n briodol i bractis cyffredinol. Bwriad y modiwl yw annog y nyrs i ddatblygu sylfaen gref yn y maes ymarfer amrywiol hwn.
Pa mor hir mae'r cwrs yn cymryd i'w gwblhau?
Cyflwynir y modiwl hwn yn rhan-amser dros 15 wythnos, fel arfer yn yr Hydref.
Bydd y cwrs nesaf yn cael ei gynnal fel a ganlyn:
Hydref 2025
8 diwrnod astudio ar-lein ar y dyddiau canlynol:
- Dydd Llun 13 Hydref
- Dydd Llun 20 Hydref
- Dydd Llun 10 Tachwedd
- Dydd Llun 24 Tachwedd
- Dydd Llun 1 Rhagfyr
- Dydd Llun 8 Rhagfyr
- Dydd Llun 12 Ionawr
- Dydd Llun 26 Ionawr (arholiad)
Bydd y 3 asesiad ar y cwrs byr hwn yn cynnwys:
- 8 Blog (i鈥檞 gwblhau yn ystod y modiwl)
- Arholiad Cwestiynau Amlddewis (MCQ)
- Cymwyseddau clinigol
Gwybodaeth bellach
Cefnogir y modiwl gan gwrs byr ar system Rheoli Hyfforddiant y brifysgol (TDM) o'r enw, GPN Training the Supervisors. Pwrpas y cwrs byr hwn yw addysgu a chefnogi goruchwylwyr clinigol sy'n asesu ac yn cwblhau'r dogfennau sy'n ymwneud 芒'r modiwl nyrsio ymarfer cyffredinol.
Cysylltwch 芒 arweinydd y cwrs am wybodaeth bellach.
Tiwtor
Helen Charles, Darlithydd Gwyddorau Iechyd (Nyrsio Meddygol)

Mae Helen yn Arweinydd Rhaglen ar y Cymhwyster Ymarfer Arbenigol Nyrsio Cymunedol (SPQ) mewn Nyrsio Meddygaeth Teulu. Mae hi hefyd yn arwain y cwrs Nyrsio Meddygaeth Teulu Cymru Gyfan. Yn ogystal, mae'n cyfrannu at y rhaglenni Presgripsiynu Annibynnol a Phresgripsiynu i Fferyllwyr, ac mae鈥檔 nyrs gofrestredig.
Dechreuodd Helen ei gyrfa nyrsio ar uned resbiradol cyn dod yn Ymarferydd Nyrsio, gan ddarparu gofal ysbyty gartref i gleifion ag COPD rhwng gofal sylfaenol ac eilaidd. Yn ddiweddarach bu鈥檔 gweithio fel Nyrs Ymarfer ac fel Uwch Ymarferydd Nyrsio gyda diddordeb arbenigol mewn meddygaeth resbiradol, gan gynnwys gwasanaethau y tu allan i oriau.
Ymunodd Helen 芒 Phrifysgol Bangor fel darlithydd yn 2019. Mae hi鈥檔 siarad Cymraeg yn rhugl.