Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae hwn yn gwrs byr rhan-amser sy'n cyflwyno ymyriadau llythrennedd i blant a phobl ifanc ag anawsterau datblygu eu sgiliau llythrennedd. Bydd gan ymgeiswyr yr opsiwn o ddysgu ar-lein neu'n bersonol ym Mangor trwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg.
I bwy mae鈥檙 cwrs yma i?
Bydd y cwrs hwn o fudd i athrawon, tiwtoriaid, staff cymorth addysgu a chynorthwywyr, therapyddion lleferydd ac iaith, a'r rhai sy'n gweithio gyda dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol neu wahaniaethau dysgu. Mae angen 2 flynedd o brofiad blaenorol mewn addysg neu weithio gyda phlant cyn y cwrs.
Pam astudio鈥檙 cwrs yma?
Mae'n cynnig i ymgeiswyr ddod yn arbenigwyr achrededig mewn cyflwyno ymyriadau llythrennedd i blant a phobl ifanc ag anawsterau datblygu eu sgiliau llythrennedd a'r rhai 芒 dyslecsia. Bydd ymgeiswyr yn gallu nodi'r anawsterau a wynebir gan blentyn neu berson ifanc o ran darllen, sillafu, a llawysgrifen, a llunio rhaglenni ymyrraeth addas. Byddant yn gallu adnabod anawsterau llythrennedd a darparu ymyrraeth trwy gyfrwng y Gymraeg a/neu Saesneg.
Ar 么l cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd y dysgwr yn gallu cyflwyno ymyriadau llythrennedd wedi'u targedu i blant a phobl ifanc 芒 Statws Ymarferydd Achrededig neu Statws Athro Achrededig gyda Chymdeithas Dyslecsia Prydain. Dyma鈥檙 unig gwrs yn y DU sy鈥檔 canolbwyntio ar gefnogi dysgwyr ag Anawsterau Dysgu Penodol yng Nghymru ac mae鈥檔 caniat谩u ar gyfer gwaith ymyrraeth Cymraeg a Saesneg gyda disgyblion.
Gwybodaeth am aseiniadau:
Bydd asesiad o鈥檙 cwrs yn cynnwys:
- 20 awr o addysgu ymarferol gyda disgybl. Bydd hyn yn cael ei asesu gan ddwy wers 60 munud wedi'u recordio.
- Astudiaeth achos yn seiliedig ar y disgybl yn derbyn yr ymyriad.
- Portffolio dysgu yn seiliedig ar yr ymarfer addysgu.
Tiwtoriaid
Jo Dunton

Cyfarwyddwr Addysgu Canolfan Dyslecsia Miles
Fel Aelod Cyswllt o Gymdeithas Dyslecsia Prydain mae hi'n athrawes ac asesydd arbenigol sydd wedi ei hachredu gan Gymdeithas Dyslecsia Prydain. Mae ei gyrfa addysgu wedi rhychwantu amryw o oedrannau gan gynnwys gweithio mewn ysgolion arbennig a cholegau Addysg Bellach. Ymunodd 芒 th卯m addysgu Canolfan Dyslecsia Miles ar 么l cwblhau'r cwrs i fod yn Aelod Cyswllt o Gymdeithas Dyslecsia Prydain ym Mangor, ac aeth ymlaen wedyn i fod yn Gyfarwyddwr Addysgu'r Ganolfan. Mae ar hyn o bryd yn aelod gweithredol o Fwrdd Achredu Cymdeithas Dyslecsia Prydain.
Ruth Elliott

Arweinydd DPP Canolfan Dyslecsia Miles
Athrawes ac asesydd arbenigol i ddisgyblion ac oedolion ag anawsterau llythrennedd. Mae hi'n athrawes gymwysedig ac mae鈥檔 Aelod Cyswllt o Gymdeithas Dyslecsia Prydain. Ar hyn o bryd hi yw arweinydd datblygiad proffesiynol parhaus . Mae hi hefyd yn creu cynnwys ac yn hyfforddi fel rhan o鈥檙 project .