Mae ein hymchwil yn defnyddio model gydol oes sy'n cymhwyso dulliau gwerthuso economeg iechyd i dreialon a chynlluniau astudio eraill i werthuso iechyd cyhoeddus ac ymyriadau seicogymdeithasol ar lefel rhaglen a system. Defnyddir ein hymchwil yn y GIG, sefydliadau’r trydydd sector, a’r llywodraeth. Cyllidir llawer o'n hymchwil gan , , elusennau a Llywodraeth Cymru.
Gyda lens ymchwil a pholisi, rydym yn cymhwyso economeg iechyd i iechyd y cyhoedd ac ataliol, llesiant a lles. Er engraifft, rydym wedi cyhoeddi tri adroddiad wedi’u comisiynu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru: Gweddnewid Bywydau Ifanc ledled Cymru; Lles Mewn Gwaith; a Byw yn Dda yn Hirach. Gweler yr adroddiadau llawn isod:
Mae ein harbenigedd a'r dulliau a ddefnyddiwn i'w gweld yn y ffeithlun hwn:

Llun ddisgrifiad: Gwe-ddiagram yw hwn sy’n amlygu’r dulliau a ddefnyddiwn. Mae'r categorïau'n ffurfio cylch consentrig mewn glas, sef: Gwerth Cymdeithasol, Adolygu, Gwerthusiad Economeg, Canolbwyntio ar Gyfranogwyr a Blaenoriaethu. Mae'r dulliau yn cael eu harddangos mewn cylchoedd coch sydd ynghlwm wrth bob categori. Ar gyfer Gwerth Cymdeithasol maent yn adenillion cymdeithasol ar fuddsoddiad ac adenillion ar fuddsoddiad. Y dulliau ar gyfer Adolygu yw adolygiadau synthesis realistig, adolygiadau systematig ac adolygiadau cyflym. Ein dulliau gwerthusiad economeg yw dadansoddiad cost-effeithiolrwydd, dadansoddiad cost-canlyniad, dadansoddiad cost a budd, Modelu Markov a dadansoddiad cost-ddefnyddioldeb. Dulliau sy’n canolbwyntio ar gyfranogwr yw gwerthusiad realistig ac arbrofion dewis arwahanol. Dulliau blaenoriaethiu yw dadansoddi penderfyniad meini prawf lluosog a chyllidebu rhaglenni a dadansoddiad ffiniol.
Mae tystiolaeth ryngwladol yn awgrymu y daw’r adenillion ar fuddsoddiad mwyaf o fuddsoddiad yn ystod y tair blynedd gyntaf o fywyd. Mae ein hymchwil yn dangos mai camau ataliol cadarnhaol yn ystod datblygiad plant yw'r ffyrdd pwysicaf o ymyrryd a sicrhau'r adenillion ar fuddsoddiad mwyaf i gymdeithas.

Llun ddisgrifiad: Mae'r ddelwedd hon yn dangos dau graff o wariant cyhoeddus ar iechyd. Mae'r llinell grom gyntaf yn cynrychioli gwariant cyhoeddus cyfredol sy'n cynyddu dros gwrs bywyd. Mae'r ail linell yn dangos model amgen yn buddsoddi'n gynnar i wario llai yn ddiweddarach mewn bywyd.
Mae ein ffeithlun yn dangos sut mae ffactorau yn effeithio ar ein llesiant drwy gwrs bywyd.

Llun ddisgrifiad: Mae'r ffeithlun hwn yn adlewyrchu cysyniad sylfaenol "olwyn bywyd". Mae'r cylch consentrig cyntaf yn goch ac yn adlewyrchu ffactorau personol sy'n pennu neu'n cael effaith trwy cwrs bywyd ar lesiant a lles. Y rhain yw: gyrfaoedd a chyflogaeth; pwrpas a chyfraniad; iechyd meddwl; iechyd corfforol; perthynas a chysylltiad cymdeithasol; diogelwch bwyd, dŵr a ynni, addysg a thwf; hunaniaeth bersonol; sefydlogrwydd ariannol, ac amgylchedd y cartref a’r gwaith. Mae'r ail gylch consentrig yn wyrdd ac yn adlewyrchu ffactorau lleol sy'n pennu neu'n cael effaith ar lesiant a lles trwy’r cwrs bywyd. Y rhain yw: polisi llywodraeth genedlaethol a lleol; mynediad at dai a thrafnidiaeth; mynediad at addysg a chyflogaeth; Y gymdogaeth, yr amgylchedd adeiledig a naturiol; mynediad at leoedd gwyrdd a glas; mynediad at iechyd a gofal cymdeithasol, llythrennedd iechyd a chyfiawnder. Mae'r trydydd cylch consentrig yn las ac yn adlewyrchu ffactorau cenedlaethol a byd-eang sy'n pennu neu'n cael effaith ar lesiant a lles trwy gwrs bywyd. Y rhain yw: newid amgylcheddol a hinsoddol; normau cymdeithasol a diwylliannol; technoleg; globaleiddio; amodau macroeconomaidd; amodau geo-wleidyddol, a rhyfel, terfysgaeth, newyn, pandemig a thrychinebau naturiol.
Mae effaith ein gweithgareddau ymchwil yn bellgyrhaeddol, fel y dangosir yn yr ffeithlun isod.