Mae Sefydliad Ymchwil yng Ngholeg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithas yn rhychwantu amrywiaeth eang o ddisgyblaethau, ac yn cyfuno arbenigedd ar draws meysydd mewn sawl achos. Mae'r ymchwil gyffrous ac arwyddocaol a wneir gan ein hysgolion academaidd yn chwarae rhan bwysig yn sicrhau statws Bangor fel un o sefydliadau ymchwil mwyaf blaenllaw'r byd, fel y cydnabuwyd yn yr asesiad o ansawdd ymchwil blaenorol (REF 2021).
Partneriaethau Ymchwil
Mae ymchwilyn y Sefydliad Ymchwil yn cael ei wneud gan unigolion a gan grwpiau a chanolfannau ymchwil. Mae'r Sefydliad yn cynnwys academyddion enwog yn ogystal ag ymchwilwyr ac ysgolheigion hynod ymroddedig ar wahanol gamau gyrfa, gan gynnwys cymuned lewyrchus o ymchwilwyr ôl-raddedig. Ceir gwybodaeth bellach am weithgareddau ymchwil pob ysgol ar eu tudalennau gwe unigol.
Strategaeth Ymchwil
Sefydliad yw hwn sy’n gwneud ymchwil arobryn, sy'n rhagorol yn rhyngwladol ac sy'n cael effaith ar draws meysydd pwnc sy'n cynnwys iaith a llenyddiaeth, cerddoriaeth a'r cyfryngau, astudiaethau ariannol a masnach, cyfathrebu, arloesi, rheoleiddio, cydraddoldeb, llesiant a gwytnwch, cyfiawnder, hunaniaethau, addysg athrawon ac astudiaethau cymunedol ymhlith eraill. Cyfunir rhagoriaeth academaidd ag ymgysylltiad cymunedol, effaith polisi, a chyfraniadau creadigol a diwylliannol, ynghyd ag ymrwymiad cryf i gynaliadwyedd ar sail lle mewn ymchwil a thrwy ymchwil. Mae ymchwilwyr o bedair ysgol yn rhan o’r sefydliad:
- Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau
- Ysgol Busnes Bangor
- Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas
- Ysgol Addysg
Fel endid a grëwyd i gefnogi ymchwil ac effaith ar draws Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithas, mae’r sefydliad yn cael ei arwain gan y cyfarwyddwr (neu gan dîm sy’n rhannu’r gwaith), ac yn gweithio gyda Chyfarwyddwr Ymchwil Ôl-radd y coleg. Mae gan bob ysgol Gyfarwyddwr Ymchwil, Effaith ac Ymgysylltu sy'n gyfrifol am greu amgylchedd ymchwil bywiog a chynaliadwy o fewn yr ysgol, gyda chefnogaeth Cyfarwyddwyr Ymchwil Ôl-radd yr ysgol. Ar y cyd, mae’r tîm arweinyddiaeth hwn yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu strategaethau ymchwil ac yn cefnogi datblygiadau thematig sy’n addas i bob ysgol, gan gefnogi effeithlonrwydd, cydweithredu, sicrhau bod nodau a chydlyniad cyffredin ar draws y sefydliad a chydnabod pwysigrwydd amrywiaeth ac arbenigeddau unigol mewn cymuned lle ceir ffyniant a rhagoriaeth o ran ymchwil. Mae hyn yn cynnwys ymchwilwyr ar lefelau ôl-radd, ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa ac uwch-ymchwilwyr. Gellir rhannu cyfrifoldebau’r Cyfarwyddwyr Ymchwil, Effaith ac Ymgysylltu, a chynnig cefnogaeth bellach trwy gyfrwng swyddogaethau arweinwyr ymchwil cysylltiedig. Ym mhob ysgol, mae lwfansau ymchwil a chyllid sbarduno ar gael i gefnogi ymdrechion i ddatblygu ymchwil ac effaith a chefnogaeth helaeth hefyd mewn perthynas â chyfleoedd cyllido mewnol ac allanol, ynghyd â’r cyfle i wneud cais am gyfnod o absenoldeb astudio a gyllidir gan y sefydliad.
Mae ymchwil y sefydliad wedi ei seilio'n gadarn ar ymdeimlad o le trwy gyfrwng diwylliant, perthnasedd cymharol, cyfryngedd, llenyddiaeth, iaith, cerddoriaeth, hanes, technoleg, addysg a sefydliadau, ynghyd â diddordeb yn natur newidiol cymunedau, cenhedloedd, strwythurau llywodraethu a chyfiawnder. Fel un enghraifft allweddol, mae’r Sefydliad Cydweithredol dros Ymchwil, Addysg, Tystiolaeth ac Effaith (CIEREI) yn meithrin cydweithrediadau allanol gyda Llywodraeth Cymru, CaBan, GwE ac ysgolion ar draws y rhanbarth, gan fynd i’r afael (fel llawer o’r themâu a’r canolfannau ymchwil a nodir isod) â Llesiant Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol mewn sawl ffordd. Mae ein themâu ymchwil a nodir isod, yn caniatáu i ymchwilwyr o bob rhan o'r coleg a'r brifysgol ehangach gydweithredu a chynhyrchu ymchwil arloesol, rhyngddisgyblaethol sydd gyda'r gorau yn y byd ac yn cyd-fynd â phwyslais strategol y brifysgol. Nid yw hyn yn eithrio nac yn anwybyddu meysydd rhagoriaeth ymchwil penodol y tu hwnt i'r themâu hynny, ond mae'n cynnig set ehangach o faterion thematig mae llawer o'n hymchwil yn ymffurfio o'u cwmpas, ar y cyd â dau sefydliad ymchwil arall y brifysgol.
Mae gan Fangor draddodiad balch o ymchwil gyda'r gorau yn y byd mewn Astudiaethau Celtaidd, a phwyslais neilltuol a chysylltiadau rhyngwladol parthed hanes, diwylliant, llenyddiaeth, iaith, addysg, economi a gwleidyddiaeth Cymru. Mae’r sefydliad yn gartref i rai o brif grwpiau a chanolfannau ymchwil Cymru, dan arweiniad haneswyr blaenllaw yn hanes Cymru, arbenigwyr yng nghyfraith Cymru, a diwylliant, cerddoriaeth, llenyddiaeth a barddoniaeth Cymraeg a Chymreig.
- Canolfan Ymchwil Cymru
- Canolfan R.S. Thomas
- Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru
- Y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd
- Clwstwr Hyrwyddo Dwyieithrwydd ac Addysg Gymraeg CIEREI
- Canolfan Ymchwil Rhanbarth ar gyfer rhanbarthau ac economïau cynaliadwy
Mae’r thema hon yn gosod Cymru wrth ei chraidd, gan gynnwys gweithgarwch sylweddol sy’n cefnogi nod Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru. Mae’r cylch gorchwyl hefyd yn cynnwys negodi, yn llenyddol ac yn hanesyddol, ffiniau diwylliannol yn fwy cyffredinol, yn ogystal â chysylltiadau rhwng Cymru a’r Deyrnas Unedig, Ewrop a’r byd, gan drafod pryderon a chyfraniadau lleol yng ngoleuni ffenomenau mwy pellgyrhaeddol ym maes cynaliadwyedd a thu hwnt i hynny.
Cymunedau Gwydn trwy Ddiwylliant, y Celfyddydau a Chymdeithas Sifil
Mae ein hymchwilwyr yn astudio ac yn ymarfer agweddau ar ddiwylliant, addysg a'r celfyddydau, gan feithrin dealltwriaeth o elfennau'r gymdeithas sifil sy'n cryfhau gwytnwch cymunedol i ymdopi â newidiadau a heriau cyfoes yn seiliedig ar le. Yn seiliedig ar adnoddau archifol a chyfoes sylweddol, ynghyd â gweithgarwch artistig, a thrwy ymchwil gwerthuso ac ymyriadau, maent yn cyfrannu'n weithredol at iechyd, llesiant a gwytnwch cymunedau, yn cynnwys diwylliant a'r celfyddydau i roi lle i astudio cymdeithas sifil ar waith, yn ogystal ag arbenigedd am ddefnyddwyr a thwristiaeth. Ochr yn ochr â gweithgarwch mawr ym meysydd ysgrifennu creadigol, cyfansoddi cerddorol a pherfformio ac ymyriadau mewn ysgolion ac ymyriadau i rieni, mae ein grwpiau ymchwil yn y maes hwn yn cynnwys:
- Canolfan Ymchwil Lleoliadau Newid Hinsawdd
- Y Ganolfan dros Farddoniaeth Gyfoes
- Canolfan Stephen Colclough ar Hanes a Diwylliant y Llyfr
- Y Ganolfan Astudiaethau Ffilm, Teledu a Sgrin
- Clwstwr Optimeiddio Lles a Gwytnwch CIEREI
Mae’r thema hon, yn ogystal ag ategu’r thema sy’n canolbwyntio ar Gymru, yn cynnwys astudiaethau rhyngddisgyblaethol a rhyngddiwylliannol sy’n mynd i’r afael â lleiafrifeiddio, ymyleiddio, hunaniaeth