Mae prosiect cydweithredol diweddar rhwng Prifysgol Bangor a Chanolfan Ecoleg a Hydroleg y Deyrnas Unedig (UKCEH) wedi dangos bod y rhan fwyaf o bobl eisiau mwy o natur fel coed a blodau gwyllt yn eu trefi a鈥檜 dinasoedd. Gweithiodd y t卯m mewn partneriaeth 芒 Chyngor Sir Ddinbych i asesu canfyddiadau鈥檙 gymuned o鈥檙 newidiadau amgylcheddol sy鈥檔 digwydd yn nhref arfordirol y Rhyl yng ngogledd Cymru, a chynhaliwyd arolwg hefyd o 1,866 o bobl ledled y Deyrnas Unedig i gasglu eu barn am blannu coed a sefydlu dolydd blodau gwyllt. Dangosodd y canlyniadau fod 73% o bobl eisiau mwy o goed, a 75% eisiau mwy o ddolydd blodau gwyllt.
Nid oeddem yn disgwyl canlyniad positif mor glir. Mae pobl fel rheol yn gwrthwynebu newidiadau i鈥檞 cymdogaeth, ac mae鈥檔 galonogol gweld bod cymaint o gefnogaeth i fannau gwyrdd mewn dinasoedd a threfi. Bydd ein canlyniadau yn helpu cynghorau a thrigolion i ddylunio mannau gwyrdd lleol yn well yn y dyfodol.

