Ynglŷn â Busnes, Rheolaeth a Marchnata 
Mae swyddogaeth rheolwr wedi datblygu i fod yn gynyddol heriol gyda chystadleuaeth gref ym mhobman, disgwyliadau a heriau enfawr i ddatblygu sefydliadau arloesol a chynaliadwy sydd angen cystadlu yn amgylchedd busnes heddiw. Mae hyn yn gwneud swyddi mewn Busnes, Rheolaeth a Marchnata yn llawer mwy cymhleth a heriol ond yn ddiddorol iawn hefyd! Bydd ein graddau ôl-radd yn rhoi’r sgiliau a’r ddealltwriaeth rydych eu hangen ar gyfer gyrfa fusnes lwyddiannus mewn amrywiaeth o wahanol sectorau diwydiannol boed hynny mewn cwmnïau preifat, y sector cyhoeddus, y llywodraeth neu sefydliadau gwirfoddol. Byddwch hefyd yn ennill y cymwysterau a'r hyder sydd eu hangen i gystadlu yn y farchnad swyddi ar lefel ryngwladol. Byddwn yn rhoi'r gallu i chi ymdrin yn hyderus â gwahanol heriau fel y gallwch edrych ymlaen at ddyfodol buddiol mewn bron unrhyw sefydliad.
Mae Ysgol Busnes Bangor yn cynnig amrywiaeth eang o raddau meistr arloesol (MBA, MSc ac MA) sy'n rhoi dealltwriaeth i chi o themâu busnes cyfoes gan gynnwys cynaliadwyedd, entrepreneuriaeth, rheolaeth, arweinyddiaeth, marchnata digidol, dadansoddeg data, ymddygiad sefydliadol, strategaeth, rheoli brand a chynllunio busnes.
Mae ein holl raglenni Busnes, Rheolaeth a Marchnata ôl-radd wedi eu hachredu gan Ddiploma / Tystysgrif / Dyfarniad Lefel 7 Sefydliad Rheolaeth Siartredig mewn rheolaeth ac arweinyddiaeth y mae galw mawr amdanynt ac a gydnabyddir yn eang fel bod myfyrwyr llwyddiannus yn cael cymhwyster deuol.