全民彩票

Fy ngwlad:
Myfyriwr yn ysgrifennu

Graddau Ymchwil Ysgrifennu Creadigol a Beirniadol

MAES PWNC 脭L-RADDEDIG TRWY YMCHWIL

Darganfyddwch fwy am y cyfleoedd ymchwil o fewn Ysgrifennu Creadigol a Beirniadol

Pam Astudio Ysgrifennu Creadigol a Beirniadol?

Mae'r cwrs yn cynnig cyfle i weithio dros gyfnod estynedig ar gasgliad o straeon byrion, nofel neu gasgliad o gerddi dan oruchwyliaeth unigol awdur sy'n cyhoeddi yn eich maes.

Bydd sylwebaeth feirniadol yn cyd-fynd 芒'ch gwaith creadigol; bydd ymchwilio i'r elfen hon yn sicrhau eich bod yn hyddysg yn eich dewis faes a bod gennych wybodaeth dda am y tueddiadau cyfredol mewn ysgrifennu.

Byddwch yn ymuno 芒 chymuned 么l-radd fywiog ac ysgol sydd 芒 phrofiad sylweddol o addysgu ysgrifennu creadigol ar lefel 么l-radd. Mae'r staff sy'n gyfrifol am ysgrifennu creadigol yn cynnwys awduron arobryn y cyhoeddwyd eu gwaith.

Mae ein myfyrwyr yn llwyddiannus. Mae nifer o'n graddedigion diweddar wedi cyhoeddi casgliadau o gerddi neu straeon byrion sydd yn ffrwyth eu hastudiaethau yma ym Mangor.

Pa le gwell i astudio ysgrifennu creadigol nag ym Bangor, sydd mewn lleoliad delfrydol rhwng y mynyddoedd a'r m么r. Yma, creadigrwydd yw'r norm yn hytrach na'r eithriad.

Cyfleoedd Gyrfa o fewn Ysgrifennu Creadigol a Beirniadol

Mae'r rhaglen hon yn eich paratoi'n llawn at yrfa yn y dyfodol fel awdur ac fel academydd. Mae nifer o fyfyrwyr ysgrifennu creadigol cyfredol neu ddiweddar wedi cyhoeddi casgliadau o gerddi neu straeon byrion sydd yn ffrwyth eu hastudiaethau yma ym Mangor.

Byddwch hefyd yn meithrin sgiliau y gellir eu defnyddio mewn cyd-destunau eraill, er enghraifft golygu, cyhoeddi, newyddiaduraeth a gweinyddu'r celfyddydau. Mae'r gallu i ddefnyddio iaith yn rhugl ac yn argyhoeddiadol yn hanfodol i lwyddo ym mron unrhyw faes, ac mae'r hyblygrwydd o weithio ar draws genres yn y cwrs hwn yn cynnig sylfaen ragorol i ddefnyddio iaith yn greadigol.