Pam Astudio Seicoleg Glinigol?
Mae鈥檙 Rhaglen Ddoethurol dair-blynedd hon yn gynllun ar y cyd rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Phrifysgol Bangor. Mae'n cynnwys sawl nodwedd unigryw y mae ein myfyrwyr yn eu gwerthfawrogi'n fawr:
-
Mae'r adran Seicoleg ym Mangor yn adran fawr a chosmopolitan gyda staff a myfyrwyr o bob cwr o'r byd
-
Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil mwyaf diweddar, roedd 85% o'n hymchwil yn cael ei ystyried yn 'rhagorol yn rhyngwladol' neu 'gyda'r gorau yn y byd'.
-
Graddiodd dros 75% gyda gradd 1af neu 2:1 yn 2021
-
Sefydlwyd yr adran seicoleg ym Mangor ym 1963 gan ei gwneud ymhlith yr hynaf yn y DU
-
Mae gennym lawer o labordai ymchwil arbenigol, yn cynnwys sganiwr MRI, labordai TMS, cyfleusterau EEG a labordy anatomeg ymennydd dynol
Cyfleoedd Gyrfa mewn Seicoleg Glinigol
Mae ein holl hyfforddeion hyd yma wedi llwyddo i gael gwaith fel Seicolegwyr Clinigol ar 么l cymhwyso o Raglen Seicoleg Glinigol Gogledd Cymru. Mae gr诺p mawr yn aros yng Ngogledd Cymru ac yn gweithio mewn gwasanaethau clinigol. Mae gr诺p llai yn symud i ffwrdd, ond yn aml yn dychwelyd pan ddaw swyddi ar gael yng Ngogledd Cymru. Ar 么l cymhwyso, mae rhai hyfforddeion wedi mynd ymlaen i weithio yn y sector preifat a'r trydy