Yngl欧n 芒 Peirianneg Electronig
Mae dyfodiad yr oes ddigidol yn gwneud electroneg a dyfeisiau electronig yn bwysicach nag erioed. Peirianneg Electronig yw'r wyddor sy'n gwneud yr holl ddatblygiadau digidol yn bosibl. Mae Peirianneg Electronig yn dilyn cwrs unigryw, gan gymhwyso gwyddoniaeth i faterion cymdeithasol. Mae arni hefyd angen creadigrwydd i ddarparu systemau a dyfeisiau arloesol sy'n gweithio yn y byd go iawn.
Mae Peirianneg Electronig yn arwain ym maes technoleg werdd, gan arloesi gyda Gridiau Clyfar, systemau Ffotofoltaidd Solar a sbarduno effeithlonrwydd ynni mewn bywyd beunyddiol. Trwy ganolbwyntio ar yr elfennau hyn, mae'r byd yn gyffredinol yn elwa ar ddyfeisiau gwell, mwy effeithlon a rhatach i bawb. Technoleg alluogi allweddol ar gyfer y dyfodol yw'r Rhyngrwyd Pethau cychwynnol, sy'n addo cysylltu dyfeisiau a gwasanaethau. Mae'r synwyryddion hynod effeithlon p诺er isel hyn yn casglu ac yn darparu'r data y mae'r byd digidol yn dibynnu arno bellach.
Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i'r dyfodol newydd disglair hwn gyda'n Canolfan DSP yn arbenigo mewn technolegau 5G. Mae hyn, ynghyd ag arbenigwyr o'r safon uchaf, yn datgelu technolegau ac ymchwil arloesol i'n myfyrwyr. Ein huchelgais yw defnyddio micro a nanodechnoleg i fanteisio i'r eithaf ar ddeunyddiau a thechnegau newydd.