Yngl欧n 芒 Gwyddorau Eigion
Un cefnfor enfawr, mewn gwirionedd, sy鈥檔 gorchuddio rhan helaeth o wyneb y ddaear: o dan y d诺r y dechreuodd bywyd ac mae鈥檙 ddaear, ei chefnfor, ei hinsawdd a鈥檌 horganebau wedi esblygu gyda鈥檌 gilydd dros yr oesoedd. Mae鈥檙 m么r wedi dylanwadu鈥檔 ddwfn ar ddynolryw. Mae ei ddyfroedd a gwely'r m么r yn llawn adnoddau ffisegol a biolegol. Mae鈥檔 rhoi gwaith i filiynau o bobl, yn gweithredu fel llwybr cludiant i lawer o fasnach y byd, ac arllwysir symiau enfawr o wastraff iddo. Ond yn fwy na dim o bosib, mae鈥檔 tanio'n hawydd am antur a'n dychymyg. Mae morwyr, deifwyr, syrffwyr, unrhyw un sydd wedi syllu allan i鈥檙 m么r a rhyfeddu, yn gwybod yr ymdeimlad arbennig o syfrdandod y gall y m么r ei ysgogi.
Mae Gwyddorau'r Eigion ym Mangor yn unigryw am ei fod yn cwmpasu astudiaeth o bob agwedd ar amgylchedd m么r y byd, o aberoedd ac arfordiroedd i ddyfnderoedd y cefnfor. Mae'n cymhwyso ystod o ddisgyblaethau gwyddonol arbenigol (bioleg, cemeg, daeareg, mathemateg, ffiseg) i arsylwi a deall y prosesau amrywiol, a chymhleth yn aml, sy'n rheoli'r system daear-cefnfor-atmosffer.
Mae ein lleoliad unigryw rhwng m么r a mynydd, a'n cyfleusterau rhagorol, sy'n cynnwys llong ymchwil gyda'r holl offer priodol, ynghyd 芒 dros 50 mlynedd o brofiad mewn ymchwil ac addysgu o'r safon uchaf ar draws ystod lawn gwyddorau鈥檙 eigion, yn ein gwneud yn un o'r prifysgolion mwyaf poblogaidd yn y Deyrnas Unedig i astudio gwyddorau'r eigion.