Yngl欧n 芒 Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer
A wnaeth eich gradd israddedig neu radd Meistr agor eich llygaid i fyd cyffrous ac amrywiol ymchwil? Mae'r diwydiant chwaraeon, iechyd, ymarfer ac anturio ac ymchwil yn y meysydd hyn mewn cyfnod o dwf. Ydych chi eisiau bod yn rhan o hynny? Os oes gennych egni a diddordeb mawr mewn ymchwil yna astudio am ddoethuriaeth ym maes gwyddor chwaraeon ac ymarfer yw'r dewis i chi!
Gallech fod yn gweithio gydag athletwyr el卯t yn eu helpu i wella eu perfformiad. Gallech gyfrannu at ddatblygu gwybodaeth am sut gellir cymhwyso gwyddoniaeth i chwaraeon ac ymarfer corff i wella'r gallu i hyfforddi neu ddysgu. Gallech gyfrannu at ddealltwriaeth y byd am ymarfer corff fel meddyginiaeth i bobl gyda phroblemau iechyd neu hyrwyddo manteision gweithgarwch corfforol ac ymarfer corff.
Bydd astudio am ddoethuriaeth yn y maes hwn yn caniat谩u ichi archwilio cyfleoedd gyrfa ym maes seicoleg chwaraeon ac ymarfer corff neu weithio ym maes adsefydlu. Bydd doethuriaeth yn sicrhau y byddwch nifer o gamau'n nes at gael swydd yn y maes a bydd yn cynyddu eich siawns o ennill cyflog da.
Y 5 uchaf
yn gyffredinol ar gyfer Ymchwil
REF 2021
3ydd
yn y DU am ansawdd ymchwil
Complete University Guide 2024