Pam Astudio Cerddoriaeth?
Ym Mangor byddwch yn rhan o gymuned fywiog o gyfansoddwyr, ysgolheigion a cherddorion o bob cwr o'r byd, byddwch yn elwa o'r cyfleoedd i rannu syniadau a chreadigrwydd mewn amrywiol ddulliau cerddorol. Mae ein cyfleusterau gyda'r gorau yn y byd, gan gynnwys pum stiwdio electroacwstig o'r radd flaenaf, casgliadau unigryw yn yr archifau a'r llyfrgell, cyfleusterau ymarfer 24 awr, offerynnau gwych, a neuaddau cyngerdd godidog. Cewch eich dysgu a'ch goruchwylio gan gerddolegwyr, cyfansoddwyr ac ymarferwyr byd-enwog, yn ogystal 芒'ch sbarduno a'ch ysgogi'n ddeallusol gan siaradwyr ac artistiaid gwadd. Y tu allan i'r cwrs, cewch ymuno 芒'n corau, cerddorfeydd ac ensembles eraill, a gellwch elwa o'r llu o gyfleoedd sydd ar gael i chi fel aelod o brifysgol draddodiadol fywiog.
Cyfleoedd Gyrfa mewn Cerddoriaeth
Gradd 么l-radd drwy ymchwil yw'r cymhwyster astudio uchaf y gellir ei gael. Yn ystod y rhaglen byddwch yn gwneud cyfraniad sylweddol a gwreiddiol i'ch maes pwnc a dod yn arbenigwr cydnabyddedig yn y maes hwnnw. Er y goruchwylir y broses ddysgu, byddwch yn annibynnol ac yn gyfrifol am ysgogi a chyfarwyddo eich hun. Ynghyd 芒'ch harbenigedd pwnc-benodol, mae hyn yn cymhwyso graddedigion at swyddi rheoli, swyddi ymchwil proffesiynol, galwedigaethau creadigol ar lefel uchel, a gyrfaoedd academaidd.