Yngl欧n ag Astudiaethau Cyfieithu
Mae Ymchwil mewn Astudiaethau Cyfieithu ym Mhrifysgol Bangor yn defnyddio arbenigedd staff academaidd a gall gynnwys amryw o bynciau ynghylch theori, hanes ac ymarfer cyfieithu, gan gynnwys amrywiol ieithoedd Ewropeaidd (Almaeneg, Ffrangeg, Sbaeneg, Eidaleg) a Tsiein毛eg.
Mae testunau sy'n arbennig o berthnasol i arbenigeddau staff presennol yn cynnwys: cyfieithu ac ieithoedd lleiafrifol (mae arbenigedd yn y cyd-destunau Cymraeg, Galiseg a Chatalaneg ar gael); cyfieithu a rhywedd; ymagweddau cymdeithasegol tuag at ymarfer a chyd-destunau cyfieithu, neu gyfieithu a'r diwydiannau creadigol (newyddiaduraeth, ffilm, cyfryngau ac ysgrifennu creadigol).
Rydym yn cynnig graddau 么l-radd ymchwil sy'n cwmpasu amryw o feysydd arbenigol a rhyngddisgyblaethol mewn Astudiaethau Cyfieithu yn ogystal 芒 Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg, Eidaleg a Tsiein毛eg. Mae'r berthynas waith glos sydd rhwng y meysydd hyn yn creu lefelau uchel o waith rhyngddisgyblaethol ac ymchwil trawsddiwylliannol helaeth, ac mae hynny i'w weld yn arbenigedd yr ymchwil mewn cyfieithu, astudiaethau llenyddol, astudiaethau ffilm, diwylliant gweledol ac astudiaethau hanesyddol.