5 Rheswm i Astudio °Õ²õ¾±±ð¾±²Ôë±ð²µ
°Õ²õ¾±±ð¾±²Ôë±ð²µ yw'r iaith a siaredir fwyaf yn y byd. Mae’n gaffaeliad yn y farchnad fyd-eang ryng-gysylltiedig sydd ohoni heddiw. Mae galw mawr am arbenigedd mewn ieithoedd modern ymhlith cyflogwyr mewn amrywiol ddiwydiannau. Ym Mhrifysgol Bangor, byddwch yn ennill sgiliau uwch mewn Mandarin a dealltwriaeth ddofn o ddiwylliant, cymdeithas a hanes Tsieina.
Rydym yn cynnig nifer o ddewisiadau ar ein cyrsiau i ddarparu ar gyfer eich diddordebau unigol. Cewch ddewis o blith y graddau dwy iaith sy’n cyfuno °Õ²õ¾±±ð¾±²Ôë±ð²µ gydag iaith arall neu ddewis y rhaglenni tair iaith. Cewch hefyd gyfuno °Õ²õ¾±±ð¾±²Ôë±ð²µ â meysydd pwnc eraill i greu profiad dysgu pwrpasol.
Mae’r holl raddau iaith pedair blynedd yn cynnwys blwyddyn dramor, sy’n gyfle gwych i ymgolli yn niwylliant Tsieina a datblygu eich sgiliau iaith. Byddwch yn treulio'r drydedd flwyddyn yn gweithio neu'n astudio dramor cyn dychwelyd i Fangor i’r flwyddyn olaf.
Mae’r cyrsiau’n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau llafar, clywedol ac ysgrifenedig mewn Mandarin. Byddwch hefyd yn ennill dealltwriaeth dda o ymwybyddiaeth ddiwylliannol, sy'n hanfodol i’r flwyddyn dramor a'ch gyrfa at y dyfodol. Mae gennym ganolfan bwrpasol ar gyfer Ieithoedd Modern ac offer cyfieithu sy’n cynnig amgylchedd dysgu cefnogol.
Ym Mhrifysgol Bangor, byddwch chi'n teimlo'n gartrefol iawn mewn cymuned groesawgar a chefnogol. Mae’r dosbarthiadau’n fach, a gallwch feithrin perthynas gref gyda’r staff a chyd-fyfyrwyr. Yn ogystal, rydym yn cynnig opsiynau °Õ²õ¾±±ð¾±²Ôë±ð²µ i ddechreuwyr ar lawer o raddau, sy’n hwylus i fyfyrwyr ar bob lefel.